Crwydrwch Eryri gyda TrawsCymru a Sherpa'r Wyddfa

2 flynedd yn ôl Tue 30th Apr 2024

Mae defnyddio gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa yn ffordd wych o deithio o gwmpas Eryri ac mae'n hawdd cysylltu â'r gwasanaethau hyn o lwybrau Traws. Mae Sherpa'r Wyddfa yn teithio o amgylch gwaelod Yr Wyddfa ac yn stopio mewn gwahanol leoliadau, bob un o fewn cyrraedd agos i lwybrau cerdded, gan gynnwys y rhai i'r copa.

Cysylltiadau gyda llwybrau TrawsCymru:

T2 – yn cysylltu ag S2 ac S3 ym Mangor ac S1 ac S3 yng Nghaernarfon

T10 - yn cysylltu ag S1 ym Metws-y-Coed ac S2 ac S3 ym Mangor

T22 - yn cysylltu ag S1 ac S3 yng Nghaernarfon, a'r S4 ym Mhorthmadog

Sherpa'r Wyddfa Map

Teithiwch ar wasanaethau TrawsCymru a Sherpa'r Wyddfa gydag un tocyn yn unig, tocyn 1bws. Ni allai defnyddio 1bws fod yn haws. Mae un tocyn, drwy'r dydd, yn ddilys ar bron bob bws yng Ngogledd Cymru – Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam – ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, yr Eglwys Newydd a Machynlleth.

Fel arall, gallwch fanteisio ar y system Tap ar Tap i ffwrdd ar bob taith a bydd y pris yn cael ei gapio ar bris tocyn 1bws.

Am ragor o wybodaeth am rwydwaith Sherpa'r Wyddfa, ewch i: sherparwyddfa.cymru