Wyth ffordd wych o fanteisio i’r eithaf ar ein Tocyn Grŵp Haf T1 a T10
3 blynedd yn ôl
Mae’r ysgol wedi cau a gwyliau’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd!
Rydyn ni eisiau eich helpu chi a’ch teulu i grwydro ledled Cymru dros yr haf eleni a hynny am y pris gorau – dyna pam rydyn ni wedi lansio ein Tocynnau Grŵp Haf T1 a T10.
Mae dau oedolyn yn teithio am £6 ar ein T10 a £10 ar ein T1 drwy’r dydd, a bydd pob plentyn yn teithio am ddim!
Rydyn ni wedi rhestru wyth peth gwych i’w gwneud gyda’r teulu ar hyd y llwybrau T1 a T10 i wneud yn siŵr eich bod chi’n manteisio i’r eithaf ar eich Tocyn Grŵp Haf.
Rheilffordd Gwili, Caerfyrddin – T1
Llun: Visit Carmarthenshire
Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod llawn treftadaeth gyda’r teulu, does dim angen i chi fynd ymhellach na Rheilffordd Gwili!
Mae’r rheilffordd dreftadaeth hon yn rhoi cyfle i oedolion a phlant yrru eu peiriant stêm eu hunain felly mae’n hanfodol i unrhyw un sy’n frwd dros reilffyrdd.
Byddwch chi’n dilyn rhywfaint o’r llwybr gwreiddiol rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan fwynhau golygfeydd hyfryd o gymoedd a bryniau coediog.
Ewch oddi ar y T1 wrth safle bws Depo First Caerfyrddin ac mae’r fynedfa wrth eich ymyl!
Zip World, Chwarel y Penrhyn, Bethesda – T10

Llun: Croeso Cymru
Cewch hedfan yn uchel uwchben tirwedd anhygoel Parc Cenedlaethol Eryri ar ddiwrnod llawn adrenalin i’r teulu cyfan ar y gwifrau gwib!
Tra byddwch chi yno, beth am fynd ar daith o amgylch chwarel hanesyddol Penrhyn a’i rhan bwysig yn y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am docynnau Zip World ar gael yma.
Mae’r gwasanaeth bws T10 yn eich gollwng yng nghanol Bethesda, lle mae taith gerdded fer i fyny i safle Zip World.
Aberaeron – T1

Llun: Croeso Cymru
Ydych chi’n awyddus i arafu? Ewch ar y T1 trydan a threulio’r prynhawn yn crwydro o amgylch tref arfordirol hyfryd Aberaeron.
Mae’r golygfeydd hardd, gyda’r harbwr hyfryd yn edrych dros Fae Ceredigion a’r tai lliwgar, yn golygu bod yr ardal yn baradwys i beintwyr.
Mae gan y dref naws naturiol ac ymlaciol ac mae’n anodd peidio â theimlo’n dawel eich meddwl wrth i chi archwilio’r llu o siopau a chaffis annibynnol sydd i’w cael yno. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy ganol y dref os ydych chi’n awyddus i wneud ychydig mwy o grwydro.
Rheilffordd Treftadaeth Llangollen (Corwen) – T10

Llun: Croeso Cymru
Ewch i lawr i Gorwen ar y T10, ar ffordd hyfryd yr A5 a hopian ar reilffordd hanesyddol Llangollen yng ngorsaf newydd Corwen!
Rheilffordd Llangollen yw’r unig reilffordd treftadaeth lled safonol yng Ngogledd Cymru. Mae’r daith yn un ymlaciol o 7.5 milltir sy’n mynd a chi drwy rai o’r golygfeydd harddaf yng Nghymru.
Mae’r rheilffordd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), yn aros yn agos at yr afon am y rhan fwyaf o’i hyd wrth iddi ymdroelli’n araf drwy olygfeydd hyfryd Dyffryn Dyfrdwy.
Gallwch chi archebu eich taith yma.
Rheilffordd y Graig Aberystwyth – T1

Llun: Croeso Cymru
Dyma ffordd wych o ddechrau archwilio’r dref lan môr hyfryd hon, sy’n cynnig golygfeydd panoramig dros y bae a’r tu hwnt.
Mae’n cludo teithwyr i fyny Craig Glais ar ben draw’r promenâd ers 1896, a dyma’r rheilffordd halio drydan hiraf ym Mhrydain.
Ar gopa Craig Glais, ceir y camera obscura mwyaf yn y byd, a chaffi, man chwarae i blant, siop anrhegion a sawl arddangosfa hanesyddol, sy’n golygu bod hon yn ffordd hwyliog o dreulio diwrnod yn Aberystwyth.
Betws-y-Coed – T10
Llun: Croeso Cymru
Os ydych chi’n mynd i ymweld ag unrhyw le ar y T10 yr haf hwn, mae Betws-y-Coed yn gwbl hanfodol.
Yng nghanol coedwigoedd anhygoel a allai gystadlu ag unrhyw leoliad alpaidd, mae’r dref fach hudolus hon yn cynnig digon i’w archwilio.
Beth am fynd â’r plant ar ymweliad hudolus â Ffos Anoddun – mae afon Conwy yn llifo drwy’r ceunant tawel hwn, sy’n gwneud i chi deimlo fel eich bod mewn byd arall pan fyddwch chi’n sefyll yng nghanol y cyfan.
Neu treuliwch ychydig oriau yn crwydro ei siopau hyfryd gyda hufen iâ ar hyd glannau afon Llugwy.
Rheilffordd Cwm Rheidol (Aberystwyth) – T1
Llun: Croeso Cymru
Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn rhedeg ar drac 1 lled cul 1 droedfedd 11+3/4 modfedd, yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Phontarfynach, pentref bach ar Afon Mynach 11 milltir (18 km) i ffwrdd. Agorwyd y rheilffordd yn 1902 ac mae trenau wedi rhedeg arni byth ers hynny, gan ddal i gludo teithwyr a phobl sy’n mwynhau trenau mewn 16 o gerbydau hardd. Dyma un o’r rheilffyrdd cyntaf i gael ei phreifateiddio.
Gellid dadlau bod y rheilffordd yn mynd drwy rai o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru - cadwch lygad am y bwncathod a’r barcud coch sy’n hedfan uwchben y dyffryn, a chyda digwyddiadau rheolaidd, siop anrhegion ac ystafell de a digon o wirfoddolwyr cyfeillgar i ateb eich holl gwestiynau, mae hwn yn ddiwrnod i’r brenin.
Bangor – T10

Llun: Croeso Cymru
Mae gan ddinas hynaf Cymru sîn fyfyrwyr lewyrchus sy’n golygu bod digon i’ch diddanu!
Beth am fynd am dro i Bier Garth – y pier hiraf ond un yng Nghymru – i gael tamaid i’w fwyta ac i fwynhau’r golygfeydd ar hyd Afon Menai.
Ychydig y tu allan i’r ddinas mae Castell Penrhyn gyda’i erddi hardd – oedd unwaith yn gartref i ddiwydiannwr cyfoethog a oedd yn berchen ar chwarel lechi gerllaw.
Sut i brynu eich tocynnau
Gallwch chi brynu eich Tocynnau Grŵp Haf ar ein gwefan, drwy lwytho ap TrawsCymru i lawr neu eu prynu ar y bws!
