Daliwch y bws gyda 50% o ddisgownt fis Medi yma
2 flynedd yn ôl
Rydyn ni’n falch o gefnogi Mis Dal y Bws fis Medi yma. Bob blwyddyn, mae Bus Users UK yn ymuno â phobl, cwmnïau bysiau a grwpiau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i hyrwyddo’r bws fel ffordd iach, gynhwysol a chynaliadwy o deithio.

I ddathlu Mis Dal y Bws, rydyn ni’n cynnig gostyngiad o 50% ar docynnau TrawsCymru i bawb sy’n prynu tocyn drwy’r ap am y tro cyntaf.
Cam 1. Llwythwch ap TrawsCymru i lawr a chofrestru neu fewngofnodi
Cam 2. Dewiswch docyn cymwys a ‘Prynu Nawr’
Cam 3. Ewch ymlaen i’r cam talu, rhowch y cod CBM23 a chlicio ‘defnyddio’
Cam 4. Ewch ymlaen i’r cam ‘Prynu Tocyn’
*Telerau ac Amodau
- Bydd y cod hwn yn ddilys o 00:01 12 Medi tan 23:59 30 Medi 2023.
- Dim ond wrth brynu tocyn drwy’r ap am y tro cyntaf bydd y cod yn ddilys.
- Dim ond unwaith bydd pob cwsmer yn cael defnyddio’r cod hwn.
- Mae’r cod CBM23 yn ddilys ar y tocynnau canlynol yn unig:
- T1: Oedolyn, plentyn ac o dan 21 - tocyn 10 taith, tocyn diwrnod a thocyn wythnos
- T1C: Oedolyn, plentyn ac o dan 21 - tocyn diwrnod
- T2: Oedolyn, plentyn ac o dan 21 - tocyn 10 taith a thocyn diwrnod
- T3: Oedolyn, plentyn ac o dan 21 - tocyn 10 taith, tocyn sengl a thocyn diwrnod
- T8: Oedolyn a phlentyn - tocyn diwrnod a thocyn wythnos
- T10: Oedolyn, plentyn ac o dan 21 - tocyn 10 taith, tocyn diwrnod a thocyn wythnos
- Mae modd rhoi eich tocyn ar waith unrhyw bryd cyn pen 12 mis o'i brynu.
- Cofiwch ar ôl i chi roi eich tocyn ar waith y bydd ond yn ddilys am gyfnod penodol.
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld beth arall rydyn ni’n ei wneud yn ystod Mis Dal y Bws: