Tocynnau bws rhatach i blant a phobl ifanc

9 mis yn ôl Thu 28th Aug 2025

Gall pobl rhwng 5 –21 oed* brynu tocyn sengl am £1 a thocyn dydd am £3 ar bob gwasanaeth TrawsCymru. Prynwch wrth y gyrrwr, neu mewn pecynnau ar ein ap.

Bydd tocynnau dydd a gyhoeddir fel rhan o'r cynllun hwn gan weithredwr arall yn ddilys ar gyfer teithio ar wasanaethau TrawsCymru hefyd.

Gellir prynu tocynnau am y pris arbennig hwn y tu allan i Gymru ar wasanaethau T7 a T8, ar yr amod bod y daith yn cychwyn neu'n gorffen yng Nghymru.

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hon i helpu pobl ifanc i deithio am lai. Dysgwch fwy am y cynllun a gweld yr holl weithredwyr sy'n cymryd rhan ar wefan TrC yma.

*bydd angen fyngherdynteithio ar bobl rhwng 16-21 oed. Gwnewch gais am eich fyngherdynteithio heddiw yn mytravelpass.tfw.wales/cy