Gwelliant i'r T2, T3 a gwasanaeth newydd T22
8 mis yn ôl
Croeso i wasanaeth gwell y T2 a T3 a'r gwasanaeth T22 newydd sbon. Mae'r gwasanaethau hyn yn cysylltu cymunedau yn ogystal â’ch galluogi i deithio i leoliadau gwych am ddiwrnodau allan, felly beth bynnag yw pwrpas eich taith, gall y bws fynd â chi yno heb ffws na ffwdan.
Y llwybrau
T2 Bangor – Aberystwyth drwy Gaernarfon, Cricieth, Porthmadog, Dolgellau a Machynlleth.
T3 Wrecsam – Abermaw drwy Riwabon, Llangollen, Corwen, Y Bala a Dolgellau.
T22 Caernarfon – Blaenau Ffestiniog drwy Borthmadog.
Beth sydd wedi gwella?
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud gwelliannau i wasanaethau T2 a T3, ac wedi cyflwyno'r gwasanaeth T22, i wneud dal y bws yn haws ac yn fwy cyfleus. Dyma rai o'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud:
- Bysiau newydd sy’n cynnig teithiau mwy cyfforddus a dibynadwy ar wasanaethau T2 a T3
- Prisiau gwell, gyda rhai tocynnau unffordd bellach yn rhatach nag o'r blaen
- Lansio llwybr T22 newydd ym mis Chwefror 2024, ac o ganlyniad mae gwasanaethau bws amlach rhwng Caernarfon a Phorthmadog
- Bysiau trydan ar y gwasanaeth T22
- Gwell cysylltiadau â llwybrau TrawsCymru eraill a threnau
Rhowch gynnig arni eich hun
Am gyfnod cyfyngedig gallwch gael 50% oddi ar docyn diwrnod neu wythnos ar lwybrau T2 neu T22, neu docyn diwrnod am bris gostyngol ar y gwasanaethau T3/T3C. Yn syml, nodwch y cod disgownt UPGRADED wrth dalu. Mae telerau ac amodau yn berthnasol*
Bwrwch olwg ar ein canllaw isod am gyfarwyddiadau cam wrth gam.
Sut i ddefnyddio'r cod disgownt
- Lawrlwythwch ap TrawsCymru a chrëwch gyfrif
- Cliciwch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf a dewiswch 'Tocynnau ffôn symudol'
- Dewiswch eich llwybr – T2, T3 neu T22
- Dewiswch y tocyn diwrnod neu wythnos (T2 a T22 yn unig) sy'n addas i'ch anghenion teithio a chliciwch ‘Prynu nawr'
- Gwiriwch fod y tocyn yn addas i'ch anghenion. Os ydyw, cliciwch ‘Talu'.
- Dewiswch ar gyfer pwy yw'r tocyn. Os yw'n addas i chi, dewiswch ‘I mi’. Fel arall, gallwch roi'r tocyn i rywun arall.
- Cyflwynwch fanylion eich cerdyn
- Cliciwch 'Ychwanegu cod disgownt' (gweler y ddelwedd isod)
- Rhowch y gair 'UPGRADED' yn y blwch testun a chliciwch ‘Defnyddio’
- Prynwch y tocyn
- Bydd tocynnau yn ymddangos yn yr adran tocynnau ffôn symudol. Rhaid actifadu’r tocyn cyn i chi deithio a sganio'r cod QR ar y peiriant tocynnau wrth i chi fynd ar y bws.
- Mwynhewch eich taith!
*Amodau a thelerau’r cynnig
- Mae modd prynu un tocyn am bris gostyngol fesul cyfrif ap
- Mae’r cod disgownt yn ddilys rhwng 8 Gorffennaf a 4 Awst
- Dim ond ar gael ar gyfer tocynnau ap
- Ar gael i oedolion, plant a deiliaid Fy Ngherdyn Teithio 16-21 oed
- Rhaid defnyddio tocyn o fewn blwyddyn i'w brynu
- Ni fydd unrhyw ad-daliad ôl-weithredol rhannol neu lawn ar gyfer tocynnau a brynwyd am y pris llawn heb god disgownt
Ffyrdd eraill o dalu am eich taith
Gallwch brynu tocynnau unffordd, diwrnod, wythnos neu 1bws yn uniongyrchol gan yrrwr y bws gydag arian parod neu gerdyn gan dalu’n ddigyswllt. Fel arall, gallwch chi dapio ar y dechrau a’r diwedd (Tap On Tap Off) gyda cherdyn digyswllt am bob taith a bydd y system yn cyfrifo'r pris gorau i chi. Mae hyn ar gael ar gyfer tocynnau i oedolion yn unig ond mae wedi'i gapio ar bris tocyn 1bws felly ni fyddwch byth yn talu mwy na £6.50 am y diwrnod pan fyddwch yn teithio gyda TrawsCymru a'r rhan fwyaf o’r cwmnïau bws eraill yng Ngogledd Cymru.
Mae cerdiau teithio rhatach yn cael eu derbyn ar y gwasanaethau hyn, ac mae tocynnau eraill hefyd ar gael i'w prynu ar ap TrawsCymru fel bwndel 10 tocyn unffordd sy'n cynnig hyblygrwydd i'r rhai sy'n teithio nawr ac yn y man.
Isod mae rhai o brisiau ein tocynnau teithio unffordd sydd ar gael i'w prynu ar y bws gydag arian parod neu’n ddigyswllt.
T2
Bangor <> Caernarfon £2.00
Criccieth <> Porthmadog £2.00
Machynlleth <> Aberystwyth £2.50
Ysbyty Bronglas <> Aberystwyth £1.25
Bangor <> Aberystwyth £5.50
T3
Abermaw <> Dolgellau £2.00
Y Bala <> Corwen £2.25
Corwen <> Llangollen £2.00
Llangollen <> Wrecsam £2.00
Abermaw <> Wrecsam £5.50
T22
Blaenau Ffestiniog <> Porthmadog £2.00
Porthmadog <> Caernarfon £2.50
Blaenau Ffestiniog <> Caernarfon £2.75
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwasanaethau newydd a gwell TrawsCymru ac rydym yn gobeithio eich gweld ar ein bysiau yn fuan.
Llun gan John Young
Llun gan John Young