Cyfle i ddatgloi 12 taith am bris 10 gyda T7 yr haf hwn

1 flwyddyn yn ôl Wed 6th Aug 2025

Cyfle i ddatgloi 12 taith am bris 10 gyda T7 yr haf hwn

Prynwch docyn 10 taith a chewch dderbyn 2 daith ychwanegol am ddim ar wasanaeth T7 TrawsCymru, ar y cyd â Bws Casnewydd. Ar gael i'w prynu rhwng 21 Gorffennaf a 31 Awst, mae'r fargen hon, sy’n ddilys am gyfnod cyfyngedig, yn sicrhau gwerth gwych am arian i’r rhai sy’n teithio am resymau hamdden a chymudwyr rheolaidd fel ei gilydd.

Mae pris y tocyn Haf 12 taith am bris 10 wedi'i gynllunio i gadw costau'n isel a nifer y teithiau’n uchel. Gall oedolion fanteisio ar y fargen hon am £58.50 yn unig, tra gall plant a'r rhai 16-21 oed sydd â fyngherdynteithio fwynhau'r un tocyn am gyn lleied â £39.00. Gyda phrisiau fforddiadwy a dwy daith ychwanegol wedi'u cynnwys, dyma'r opsiwn perffaith i deuluoedd sy'n mentro ar anturiaethau haf neu gymudwyr sy'n awyddus i arbed arian ar eu teithiau rheolaidd.

Gellir prynu tocynnau ar wefan ac ap TrawsCymru,gan  sicrhau mynediad cyfleus lle bynnag yr ydych.

Tocyn oedolyn - £58.50 
Tocyn plentyn - £39.00
Pobl 16-21 oed sydd â fyngherdynteithio - £39.00

 

Telerau ac amodau

  • Yn ddilys am flwyddyn
  • Dim ond yn ddilys ar lwybr T7, ac ni ellir ei drosglwyddo i lwybrau TrawsCymru eraill
  • Ar gael rhwng 21 Gorffennaf a 31 Awst
  • Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg
  • Ni ddylid ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall
  • Rhaid prynu tocynnau ap cyn teithio