Addasiadau Amserlen i T8
6 mis yn ôl
Mae amserlen newydd ar gyfer gwasanaeth bws T8 TrawsCymru wedi ei chyhoeddi. Mae addasiadau i'r amserlen wedi'u gwneud i ddarparu gwell dibynadwyedd a pherfformiad, gyda'r amserlen newydd yn dod i rym o 1 Gorffennaf.
Mae trosolwg o newidiadau i’r gwasanaeth ar gael isod:
• Bydd y gwasanaeth nawr yn gwasanaethu gorsaf reilffordd Caer, i'r ddau gyfeiriad.
• Bydd ymadawiadau o Gaer yn gadael 6 munud yn hwyrach nag y maent ar hyn o bryd.
• Bydd rhai addasiadau hefyd i amseriadau ar draws y llwybr i'r ddau gyfeiriad er mwyn gwella prydlondeb.
Bydd yr amseroedd gadael o Gorwen yn aros yr un fath ac yn parhau i gysylltu â'r T10 a T3/T3c.
Edrychwch ar amseroedd y dyfodol trwy newid y dyddiad ar amserlen T8 yma.