Cyfle i rhannu eich barn am wasanaeth T5

9 mis yn ôl Tue 25th Jun 2024

TrawsCymru Bus

Mae gwasanaethau bws pellter hirach TrawsCymru yn rhan bwysig o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru.

Dros yr wythnosau diwethaf mae tîm TrawsCymru Trafnidiaeth Cymru wedi bod allan i ymweld â chymunedau ar hyd llwybr T5, gan gynnwys Hwlffordd, Aberteifi ac Aberystwyth.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Cymerodd llawer o bobl yr amser i ddod i'r sesiynau galw heibio a dweud wrthym beth yr hoffent ei weld ar y llwybr pan gaiff ei ail-dendro yn ddiweddarach eleni.

"Cawsom ddigon o sgyrsiau cadarnhaol gyda theithwyr a rannodd eu profiadau teithio gyda ni a’u rhesymau dros ddefnyddio'r bws, ond clywsom hefyd am rai o'r rhwystredigaethau y mae pobl wedi'u hwynebu gyda'r gwasanaeth.

"Rydym wedi ystyried eu sylwadau, eu hawgrymiadau a'u blaenoriaethau a bydd y rhain yn ein helpu i lunio'r gwasanaeth yn y dyfodol."

Os nad oeddech yn gallu mynychu unrhyw un o'r sesiynau galw heibio, peidiwch â cholli'ch cyfle i ddweud eich dweud – cwblhewch arolwg ar-lein TrC sydd ar agor tan 5 Awst 2024 yma.

T5 Engagement QR code