Cyhoeddi amserlen newydd ar gyfer gwasanaeth bws T6 TrawsCymru
4 mis yn ôl
Newidiadau i'r amserlen er mwyn gwella prydlondeb ar hyd y llwybr ac i
wella cysylltiadau â gwasanaethau 62 a 64 yn Ystradgynlais, Powys. Bydd yr amserlen newydd yn dod i rym 29 Medi.
Dyma drosolwg o'r newidiadau i'r gwasanaeth:
- Gwasanaethau dydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sadwrn gyda rhai gwasanaethau yn gynnar fore Sadwrn yn gadael hyd at 10 munud yn gynt o Aberhonddu.
- Bydd teithiau sy'n gadael Aberhonddu ar ôl 16:00 yn gadael yn gynharach i wella prydlondeb yn ystod oriau brig gyda'r hwyr.
- Bydd gwasanaeth 14:21 o Abertawe nawr yn gadael am 14:06.
- Mae rhai teithiau sy'n gadael Abertawe ar ôl 18:00 wedi cael eu haildrefnu er mwyn gwella dibynadwyedd yn ystod oriau brig ac yn gadael yn gynharach.
Cofiwch wirio cyn teithio.
Bwrwch olwg ar yr amserlen newydd yma neu weld yr amseroedd newydd trwy newid y dyddiad ar amserlen T6 ar-lein.