Trysorau cudd i'w darganfod ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach

6 mis yn ôl Tue 25th Nov 2025

Trysorau cudd i'w darganfod ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach

Ydych chi’n awyddus i siopa dros yr ŵyl a chefnogi busnesau lleol? Mae yna amrywiaeth o drysorau cudd ledled Cymru y gallwch eu harchwilio i ddod o hyd i anrheg unigryw i chi'ch hun a'ch anwyliaid. O siopau bwtîc i siopau bwyd, bwriwch olwg ar rai o'r busnesau bach y gallwch ymweld â nhw ar y bws.

 

Yr Arcedau yng Nghaerdydd

Os ydych chi'n chwilio am y lle perffaith i grwydro siopau annibynnol, chwiliwch ddim pellach nag Arcedau Caerdydd. Gyda dros 100 o siopau, bwytai a bariau i'w harchwilio, mae'r arcedau yn freuddwyd llwyr i’r rheini sydd wrth eu bodd â siopau annibynnol. Mwynhewch ddanteithion blasus o’r siop fwyd eiconig, Wally's, porwch drwy recordiau hen ffasiwn yn Spillers a dewch o hyd i dlysau hudolus yn Crystal - mae rhywbeth at ddant pawb.

Daliwch y T1C sy'n mynd â chi i Gaerdydd.

 

Marchnad Abertawe

Wedi'i chanmol fel Marchnad Dan Do Fawr Orau Prydain, mae Marchnad Abertawe yn un o’r atyniadau y mae’n rhaid rhoi cynnig arni wrth ymweld â'r ddinas. Gyda dros 100 o stondinau, mae'r farchnad yn cynnig diwrnod allan unigryw lle gallwch ddod o hyd i'r anrheg leol berffaith. O emwaith unigryw yn y Kazbah i ddanteithion siocled fegan gan Brontosaurus, mae Marchnad Abertawe yn brofiad siopa gwych sydd â phob math o drysorau cudd i'w mwynhau.

Neidiwch ar y T6 sy'n mynd â chi i Abertawe.

 

Stryd Fawr y Bermo

Dafliad carreg yn unig o Draeth Y Bermo mae Stryd Fawr Y Bermo, sy’n wych os ydych chi’n chwilio am daith gerdded Nadoligaidd. Darganfyddwch nwyddau anghyffredin yn siop anrhegion teuluol Luvit, sy’n cynnig deunydd ysgrifennu blodeuog, clustdlysau wedi’u gwneud o resin a phrintiau Cymreig. Camwch ar draws y ffordd i’w chwaer-siop, Two Hoots, sy’n cynnwys tu mewn sydd werth ei rannu ar Instagram ac anrhegion prydferth i lonni’ch cartref.

Daliwch y T3 neu'r T3C i gyrraedd Y Bermo.

 

Aberystwyth

Gwin o Sbaen, sgarffiau sidan a llyfrau ail-law - mae Aberystwyth yn dref fach ond arbennig tu hwnt, yn llawn trysorau cudd i’w harchwilio. Mae Ultracomida yn siop fwyd Sbaenaidd gydag elfennau Cymreig iddi a fydd yn eich gadael yn ysu am ragor o bob dim, o serameg i sawsiau. Am brofiad siopa hen ffasiwn, camwch yn ôl mewn amser yn Coastal Vintage. Yma, fe welwch addurniadau Sioraidd, ategolion bwtîc a phethau casgladwy unigryw.

Mae'r T1, T1C, T2, T5 a T28 i gyd yn mynd â chi i Aberystwyth.

 

Aberaeron

Mae swyn arfordirol Aberaeron yn anodd ei wrthsefyll, felly pam na wnewch chi fynd â darn bach o’r arfordir adref gyda chi? Wedi'i leoli yn yr harbwr mae Driftwood Designs, sy'n cynnig amrywiaeth ryfeddol o anrhegion i glustogau cariad clyd a matiau diodydd unigryw. Os ewch i grwydro ar hyd y stryd fawr, byddwch chi'n arogli'r Parsley and Thyme persawrus cyn i chi ei weld. P'un a ydych chi'n awyddus i brynu cannwyll neu drowsus newydd, mae hwn yn lle gwych i sbwylio’ch hun neu i brynu anrheg ar gyfer anwyliaid.

Awgrym gwych: gallwch chi fynd o Aberystwyth i Aberaeron yn hawdd (a’r ffordd arall) gyda'n tocyn Aberystwyth - Aberaeron ar y T1 a'r T5.