Gweithgareddau Calan Gaeaf yn ystod hanner tymor yr hydref
8 mis yn ôl

Gweithgareddau Calan Gaeaf yn ystod hanner tymor yr hydref
Cofleidiwch ysbryd arswydus Calan Gaeaf eleni gyda TrawsCymru. O beintio pwmpenni i lwybrau brawychus, mae digon o weithgareddau Calan Gaeaf y gall ein gwasanaethau fynd â chi atynt.
Rheilffordd Llyn Tegid
30 a 31 Hydref 2025
Byddwch yn barod am noson gydag ysbrydion ac ellyllon ar drenau Calan Gaeaf ar Reilffordd Llyn Tegid. Bydd dau wasanaeth arbennig yn rhedeg am 5.30 pm a 6.45 pm, gan alw heibio cynulliad o wrachod wrth redeg o Lanuwchllyn i orsaf Fflag Glanllyn. Mae croeso i chi wisgo gwisg ffansi! Dysgwch ragor ar eu gwefan: https://bala-lake-railway.co.uk/cy/arbennig/trenau-calan-gaeaf/
Neidiwch ar y T3 neu'r T3C i gyrraedd Rheilffordd Llyn Tegid.
Castell Dinbych
31 Hydref 2025
Ewch i Gastell Dinbych yn eich gwisg frawychus orau’r Calan Gaeaf hwn am lwybr iasol a chrefftau arswydus.
Bydd cyfle gennych i ennill gwobrau siocled Calan Gaeaf ar ôl cerdded y llwybr tra bo stociau’n dal i fod ar gael, felly peidiwch â’u methu.
Neidiwch ar y T51 i gyrraedd Castell Dinbych.
Tŷ Pawb, Wrecsam
29 - 31 Hydref 2025
Mae gan ganolfan gymunedol Tŷ Pawb ddigon i ddiddanu'r teulu yr hanner tymor hwn. O beintio pwmpenni a chreu mygydau i ddisgo Calan Gaeaf i’r teulu cyfan, ewch i'w tudalen i gynllunio'ch ymweliad.
Neidiwch ar y T3 neu'r T3C i gyrraedd Tŷ Pawb.
Ysbrydion yn y Ddinas, Abertawe
25 Hydref 2025
Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i galon Abertawe. Os ydych chi'n mynd gyda'r teulu, mwynhewch gemau, cerddoriaeth, cystadleuaeth gwisg ffansi a pherfformiadau difyr.
Mae Parc “Tywyll” Amy Dillwyn wedi’i gynllunio ar gyfer plant ac oedolion dewr. Yn llawn creaduriaid brawychus a golygfeydd iasol, nid yw hwn yn addas ar gyfer y gwangalon.
Gyda chymysgedd o weithgareddau i deuluoedd ac oedolion, mae rhywbeth at ddant pawb.
Neidiwch ar y T6 i gyrraedd canol dinas Abertawe.
Castell Caernarfon
31 Hydref - 01 Tachwedd 2025
Dechreuwch Galan Gaeaf yn y ffordd iawn gyda Llwybr Losin neu Lanast Castell Caernarfon. Archwiliwch y castell, casglwch y cliwiau cudd a mwynhewch wledd os byddwch chi'n datrys y triciau.
Neidiwch ar y T2 neu'r T22 i Gaernarfon.
Techniquest, Caerdydd
25 Hydref 2025
Peidiwch â methu Parti Calan Gaeaf Gwyddoniaeth Arswydus Techniquest yr hanner tymor hwn. O Lwybr Losin neu Lanast a chrefftau Calan Gaeaf i gystadleuaeth gwisg ffansi, mae digon i'w fwynhau. Os na allwch chi ddod y diwrnod hwnnw, beth am wylio'r sioe wyddoniaeth fyw, 'Ghoul School’? Mae'r sioe yn rhedeg ar benwythnosau drwy gydol mis Hydref ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae'r T1C yn galw ychydig funudau yn unig ar droed o Techniquest ym Mae Caerdydd.