Fesurau i gadw teithwyr i symud yn ystod gwaith adeiladu hanfodol

6 mis yn ôl Thu 5th Feb 2026

Mae gwaith adeiladu hanfodol i greu llwybr beicio newydd yn Comins Coch yn golygu y bydd y gyffordd ar yr A487 ar gau rhwng 5 Chwefror 2026 nes mis Mai 2026.

Rydym yn ymdrechu i gynnal y gwasanaeth a mynediad i gyrchfannau allweddol.

Bydd bws gwennol pwrpasol, CC2, yn gweithredu dros dro rhwng:

  • Comins Coch (Safle Bws Brongwinau)
  • Lluest ar gyfer Coleg Ceredigion
  • Waunfawr
  • Gorsaf Fysiau Aberystwyth (Safle 4)

Mae'r bws gwennol hwn yn darparu mynediad amgen i deithwyr yr effeithir arnynt yn sgil cau'r safle bws ar yr A487.

Er y byddwn yn parhau i lynu at yr amserlen presennol, bydd y T2 a'r T28 yn dilyn gwyriad ar yr A487 gan alw heibio Archfarchnad CK a Maesceinion yn Waunfawr cyn ail-ymuno â’r A487.  Mae'r safleoedd hyn yn darparu mynediad parhaus i leoliadau allweddol gan gynnwys Ysgol Penglais a Chartref Gofal Hafan y Waun.  Ni fydd y ddau wasanaeth yn galw yn safle bws yr A487 Comins Coch yn ystod y cyfnod cau.

Er mwyn hwyluso eich taith drwy Waunfawr yn ystod y gwaith, bydd y safleoedd bws canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Safle Bws Maesceinion ar gyfer holl wasanaethau T2 a T28.
  • Bydd yr holl safleoedd bws presennol mewn defnydd yn Waunfawr.
  • Ni fydd y safleoedd bws ar hyd Rhoshendre yn cael eu gwasanaethau yn ystod y gwaith.

Mae TrC a Lloyds Coaches yn cyd-weithio i leihau amhariad ar wasanaethau i deithwyr er mwyn sicrhau bod y gymuned yn parhau i fod â chysylltiad da yn ystod cyfnod y gwaith.