Gweithgareddau’r Pasg yng Nghymru
3 mis yn ôl

O Abertawe i Gaernarfon, ceir llwyth o weithgareddau hwyl a sbri dros wyliau’r Pasg. Darllenwch ymlaen i weld y mannau y gellir eu cyrraedd ar fws.
Cofiwch fydd rhai o’n gwasanaethau’n dilyn amserlenni gwahanol ddydd Gwener y Groglith, 3 Ebrill a ddydd Llun 6 Ebrill o ganlyniad i wyliau’r Banc. Gwiriwch ar ein gwefan cyn teithio: Llwybrau a mapiau
T1 - Aberaeron, Helfa Wyau Pasg yn Llanerchaeron
Crwydrwch drwy erddi prydferth ystâd Llanerchaeron wrth wneud helfa wyau Pasg. Mae tocynnau i’r digwyddiad yn cynnwys taflen â’r llwybr, clustiau bwni ac ŵy Pasg - bydd digon i’r holl deulu ei fwynhau.
T2 - Castell Caernarfon a Chastell Criccieth
Bydd gweithgareddau Pasg mewn Cestyll Cadw detholedig. Cwblhewch Lwybr Bwni’r Pasg yng Nghastell Caernarfon neu ewch i Gastell Caernarfon am Helfa Wyau Pasg traddodiadol.
T3 - Bala, Helfa Wyau Pasg yn Rheilffordd Llyn Bala
Allwch chi ddod o hyd i’r holl wyau Pasg sydd wedi’u cuddio o amgylch y rheilffordd? Mae Rheilffordd Llyn Bala wrthi’n cynnal yr her hon dros y Gwanwyn. Mae’r Helfa Wyau Pasg wedi’i gynnwys ym mhris tocyn trên cyffredin, sy’n cynnig hwyl a sbri i’r teulu oll ynghyd â golygfeydd aruthrol.
T4 - Merthyr, Clwb Celf a Chrefft y Pasg at Theatr Soar
Chwilio am weithgareddau artistig i’ch plant dros wyliau’r Pasg? Ewch i Theatr Soar ym Merthyr, lle fydd clwb celf a chrefft dyddiol i blant rhwng 6 -11 oed.
T5 - Helfa Wyau Pasg blynyddol Marchnad Fferm Hwlffordd
Cynhelir Marchnad Fferm Hwlffordd bob dydd Gwener ond dros y Pasg bydd rhywbeth bach ychwanegol. Mae’r Farchnad Pasg yn ddigwyddiad blynyddol lle ceir amrywiaeth o ddanteithion y Pasg yn ogystal â digwyddiadau fel Helfa Wyau Pasg a pheintio wynebau. Cadwch olwg ar eu tudalen Facebook am ragor o fanylion.
T6 -Gŵyl Fwyd a Diod Abertawe: Digwyddiad Arbennig y Pasg
Ceir ystod o weithgareddau’r Pasg yn Abertawe.
Mwynhewch wledd o fwyd dros bedwar diwrnod penwythnos y Pasg yng Ngŵyl Fwyd a Diod Abertawe. Gan addo gwledd o fwydydd blasus a diddorol, gallwch fynychu’r ŵyl yn rhad ac am ddim ond noder bod yn rhaid cael tocyn mynediad i’r digwyddiad. Ceir rhagor o fanylion yma.
Ewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe i fwynhau diwrnod llawn hwyl ar gyfer y Pasg. Byddwch yn barod am weithgareddau celf a chrefft, cerddoriaeth fyw a llwybr drwy'r oriel.
T10 - Bangor, Helfa Wyau Pasg ym Mhier y Garth
Bob blwyddyn, mae Pier y Garth yn cynnal Helfa Wyau Pasg lle byddwch yn casglu taflen o’r caban croeso gan groesi’r wyau yr ydych yn eu gweld oddi ar y daflen wrth ichi ddod o hyd iddynt. Wedi ichi gwblhau’ch taflen a’u dychwelyd, byddwch yn derbyn dantaith y Pasg! Ewch i’r dudalen Facebook am ragor o fanylion ynghylch digwyddiad y flwyddyn hon.