Mis Dal y Bws 2025
1 flwyddyn yn ôl

Mis Dal y Bws 2025
Mis Medi yw Mis Dal y Bws yw hi y mis hwn; cyfle i ddathlu teithio ar y bws, pam ei bod mor bwysig a pham y dylech chi ddal y bws yn amlach.
Sut i gymryd rhan ym Mis Dal y Bws
Ar wahân i ddal y bws, sut arall allwch chi gymryd rhan ym Mis Dal y Bws? Dyma rai awgrymiadau ar sut i ymuno â’r hwyl:
Cymerwch ran yn y gystadleuaeth
I ddathlu pen-blwydd Bus Users yn 50 oed, rydym yn cynnal cystadleuaeth. Drwy gymryd rhan ynddi, byddwch yn cael cyfle i ennill bwndel TrawsCymru, gwerth hyd at £40. Gyda 3 bwndel ar gael, beth sydd ddim i'w hoffi am y cynnig arbennig hwn?
I gymryd rhan, ewch i dudalennau Facebook Trafnidiaeth Cymru neu TrawsCymru, hoffwch y post ac ychwanegwch sylwad. Mae hi mor syml â hynny. Dewch o hyd i'r telerau ac amodau yma: https://traws.cymru/cy/catch-the-bus-month-2025/terms-and-conditions

Bachwch docyn am bris gostyngol i ymweld ag atyniad yng Nghymru
Er mwyn hyrwyddo teithio fforddiadwy yn ystod Mis Dal y Bws, rydym wedi ymuno â rhai o'n partneriaid i gynnig diwrnodau allan i chi am brisiau gostyngol:
- Rheilffordd Fynydd y Bannau
- Rheilffordd Cwm Rheidol
Teithiwch ar wasanaeth TrawsCymru yna dangoswch eich tocyn bws pan fyddwch yn cyrraedd y swyddfa docynnau i gael 10% oddi ar bris eich tocynnau.

Teithiwch i leoliad newydd yng Nghymru
Mae yna drysorau cudd ledled Cymru i chi eu darganfod ar y bws, o Abertawe i Fangor. O gaerau Normanaidd a thraethau Baner Las i ganolfannau bywyd gwyllt a bwydo crocodeilod, mae anturiaethau at ddant pawb i'w darganfod.
Rydym wedi casglu rhestr o 50 o leoliadau ledled Cymru i ymweld â nhw, felly cadwch lygad ar ein tudalen newyddion. Cynlluniwch eich taith yma: https://traws.cymru/cy/plan-your-journey
Manteision teithio ar fws
P'un a ydych chi'n gymudwr rheolaidd neu os hoffech chi gerdded mwy o gamau y mis hwn, nawr yw'r adeg berffaith i ddal y bws. Dyma rai manteision allweddol:
Hyrwyddo cynaliadwyedd
Mae dal y bws yn un o'r ffyrdd mwyaf gwyrdd o deithio. O leihau llygredd a tagfeydd i leddfu prysurdeb canol ein dinasoedd, mae cynaliadwyedd wrth wraidd teithio ar y bws.
Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol
Mae bysiau'n cysylltu pobl â lleoedd gwaith, addysg, iechyd, ffrindiau a theulu. P'un a ydych chi'n dal y bws i fynd i'r coleg neu'ch campfa leol, mae teithio ar y bws yn gwella bywydau ac yn cynnig cyfleoedd.
Hybu'r economi
Oeddech chi'n gwybod bod bysiau werth hyd at £3.50 am bob £1 a fuddsoddir? O'r miloedd o weithwyr bysiau i'r miliynau o deithwyr - mae teithio ar fysiau yn helpu busnesau i dyfu a chymunedau lleol i ffynnu.
Hyrwyddo gweithgaredd corfforol
Eisiau gwneud mwy o ymarfer corff yn ystod y mis hwn? Gall teithio ar fws fynd law yn llaw â theithio llesol. Gall cerdded i'r safle bws ac yn ôl ddarparu'r 30 munud o ymarfer corff a argymhellir eich bod yn ei wneud bob dydd yn ogystal â lleihau ymddygiad eisteddog.
I gael rhagor o wybodaeth am Fis Dal y Bws, ewch i'r dudalen hon: https://bususers.org/catchthebusmonth/