Gwaith ffordd Aberaeron
4 mis yn ôl

Gwaith ffordd Aberaeron
Bydd yr A482 yn Aberaeron ar gau o bryd i'w gilydd yn ystod mis Chwefror, gan effeithio ar wasanaethau T1 a T5 TrawsCymru.
Bydd y ffordd yn cael ei chau mewn tri cham, tra bydd gwaith ail-wynebu yn digwydd. Bydd cam un yn dechrau ar 16 Chwefror, cam dau ar 18 Chwefror, cyn bydd y gwaith yn dod i ben gyda cham tri yn dechrau ar 20 Chwefror.
Yn ystod pob cam, bydd cyfyngiadau ar hyd y ffordd rhwng 8am a 6pm a bydd yn effeithio ar wasanaethau bysiau yn yr ardal tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.
Yn ystod y cyfnod cau cyntaf, bydd y T1 a'r T5 yn galw mewn safle bws dros dro gyferbyn â thafarn y Royal Oak rhwng 8am a 6pm. Yn ystod cam dau a thri, bydd gwasanaethau'n dychwelyd i wasanaeth arferol, gan alw yn y safleoedd bws arferol.
Cynghorir teithwyr i wirio cyn teithio gan y gall teithiau gael eu hoedi.