Dewch ar daith Nadoligaidd gyda TrawsCymru y Nadolig hwn
1 mis yn ôl
Gyda TrawsCymru, rydych chi ond taith fws brydferth i ffwrdd o rai o fannau mwyaf hudolus yr ŵyl. P'un a ydych chi’n chwilio am farchnadoedd Nadolig disglair, trefi gaeafol pert, neu arddangosfeydd goleuadau Nadoligaidd, mae rhywbeth at ddant pawb.
Caerdydd
Yn gartref i un o farchnadoedd Nadolig mwyaf poblogaidd Cymru, mae Caerdydd yn llawn swyn Nadoligaidd. Cynhelir Marchnad Nadolig Caerdydd rhwng 14 Tachwedd a 23 Rhagfyr, gan gynnig crefftau lleol, danteithion blasus, ac ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig. Mae Gŵyl y Gaeaf hefyd yn arddangosfa sy’n werth ei gweld, sydd ar agor rhwng 14 Tachwedd a 5 Ionawr, ynghyd â chylch sglefrio iâ awyr agored, reidiau ffair a digon o hwyl Nadoligaidd. Mae gwasanaeth T4 yn rhedeg o'r Drenewydd, gan fynd trwy Landrindod, Aberhonddu, a threfi golygfaol eraill cyn cyrraedd Caerdydd. Mae Castell Caerdydd ond 8 munud ar droed o safle bws Heol y Brodyr Llwydion, sy'n ei gwneud yn gyfleus iawn ar gyfer archwilio mannau Nadoligaidd gorau'r ddinas.
Mae gwasanaeth T1C hefyd yn teithio o Aberystwyth i Gaerdydd, gan alw ym Mhencarreg a Llanarth a lleoliadau eraill ar hyd y ffordd. Mae’r gwasanaeth yn cynnig taith uniongyrchol i drigolion Gorllewin Cymru i hud a lledrith y Nadolig yng Nghaerdydd.
Llun: Visit Wales
Bryste
Ychydig dros y ffin ar draws y bont, mae naws Nadoligaidd Bryste yn ei gwneud hi'n daith diwrnod sy’n ddelfrydol yn nhymor gaeaf. Mae Marchnad Nadolig Bryste, sydd ar agor rhwng 1 Tachwedd a 23 Rhagfyr, yn enwog am ei chabanau pren clyd a'i stondinau bwyd wedi'u hysbrydoli gan fwyd yr Almaen. Mae gwasanaeth T7 o Gas-gwent i orsaf fysiau Bryste yn cynnig taith rwydd a chyfleus, ac mae’r Farchnad Nadolig wedi’i lleoli 7 munud ar droed oddi yno.
Llun: Bristol Christmas Market
Abertawe
Mae glannau Abertawe yn goleuo gyda marchnad a gweithgareddau Nadoligaidd sy’n addas i’r teulu cyfan. Cynhelir Marchnad Nadolig Abertawe rhwng 23 Tachwedd a 22 Rhagfyr ar Stryd Rhydychen, gan gynnig popeth o grefftau wedi'u creu â llaw i fwyd Nadoligaidd. Ewch i lawr i Wledd y Gaeaf ar y Glannau i fwynhau reidiau ffair, sglefrio iâ a digonedd o hwyl yr ŵyl.
Mae gwasanaeth T6 o Aberhonddu i Abertawe yn mynd trwy drefi fel Llanspyddid, Pontsenni, Pen y Cae. Dim ond 7 munud ar droed o ganol y farchnad ar Stryd Rhydychen yw prif orsaf fysiau Abertawe.
Llun: Visit Swansea Bay
Y Gelli Gandryll
Yn adnabyddus am ei swyn llenyddol, mae'r Gelli Gandryll yn dod â rhywbeth unigryw i dymor yr ŵyl. Crwydrwch y siopau llyfrau sydd wedi'u haddurno ar gyfer y Nadolig, a pheidiwch â cholli Penwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli rhwng 28 Tachwedd a 1 Rhagfyr. Mae'r digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau gydag awduron, gweithdai crefftau, a marchnad sy'n llawn nwyddau lleol. Mae gwasanaeth T14 TrawsCymru yn galw yn y Gelli Gandryll, sy’n dref ddelfrydol ar gyfer diwrnod allan gaeafol.
Llun: Hay Festival
Wrecsam
Mae'r dref farchnad fywiog hon yn lle perffaith ar gyfer profiad lleol Nadoligaidd. Cynhelir Marchnad Nadolig Wrecsam o'r 6ed i'r 8fed o Ragfyr a'r 13eg i'r 15fed o Ragfyr, gan gynnwys rhoddion wedi'u gwneud â llaw, stondinau bwyd, a naws Nadoligaidd glyd. Mae gwasanaeth T3 a T3C yn teithio o'r Bermo i Wrecsam, gan fynd trwy Ddolgellau, Y Bala, Llandrillo a Chorwen. Mwynhewch olygfeydd Gogledd Cymru ar eich ffordd i ddathliadau tymhorol Wrecsam. Mae gorsaf fysiau Wrecsam yn daith fer ar droed o'r farchnad.
Mae gwasanaeth T12 hefyd yn cysylltu Machynlleth â Wrecsam, gan gynnig mwy o opsiynau i ymwelwyr. Mae T12 hefyd yn galw yng ngorsaf fysiau Wrecsam, yng nghanol prysurdeb y dref.
Llun: Wrexham Christmas Market
Henffordd
Mae swyn hanesyddol Henffordd yn serennu’n fwy disglair fyth ym misoedd y gaeaf. Bydd Marchnad Nadolig Henffordd ar ei hanterth rhwng 6 Rhagfyr a 22 Rhagfyr ar y stryd fawr. Mae'r Eglwys Gadeiriol hefyd yn cynnal ei Gŵyl Coeden Nadolig hardd trwy gydol mis Rhagfyr.
Bydd y T14 yn eich cludo chi'n uniongyrchol i ganol dinas Henffordd o Aberhonddu a Chaerdydd.
Llun: Eat Sleep Live Herefordshire
Betws-y-Coed
Wedi'i leoli yng nghanol Eryri, mae Betws-y-Coed yn bentref swynol sy’n swatio yn y mynyddoedd ac mae’r farchnad aeaf yno yn cynnig profiad gwirioneddol hudolus.
Cynhelir Marchnad Nadolig Eryri ym Metws-y-Coed rhwng 30 Tachwedd a 1 Rhagfyr 2024, sy'n cynnwys crefftau wedi'u creu â llaw, cynnyrch lleol, gweithgareddau Nadoligaidd, ac awyrgylch glyd a gaeafol yn nhirwedd hardd Eryri.
Mae gwasanaeth T10 o Fangor i Fetws-y-Coed yn ei gwneud hi'n hawdd cyrraedd y farchnad swynol hon, gyda thaith fer ar droed o'r safle bws i'r farchnad.
Llun: Visit Conwy
Caer
Mae strydoedd hanesyddol a marchnad swynol Caer yn dod â naws hen fyd i dymor yr ŵyl. Cynhelir Marchnad Nadolig Caer rhwng 15 Tachwedd a 22 Rhagfyr y tu allan i Sgwâr Neuadd y Dref a ger Eglwys Gadeiriol Caer a Marchnad newydd Caer. Dewch o hyd i roddion wedi'u creu â llaw, bwyd tymhorol, a diodydd Nadoligaidd yn y lleoliad hudolus hwn.
Mae gwasanaeth T8 o orsaf fysiau Corwen i Gaer yn darparu llwybr golygfaol gwerth chweil. Mae safle bws Pepper Street ond 7 munud ar droed o Sgwâr Neuadd y Dref, sy'n eich rhoi yng nghanol dathliadau Caer.
Llun: Visit Cheshire