Holiadur a sesiynau ymgysylltu T8
7 mis yn ôl
Hoffem wybod eich barn am y gwasanaeth bws T8.
Bydd tendr newydd yn cael ei lansio ar gyfer y gwasanaeth yma rhwng Corwen a Chaer, felly gall eich adborth chi helpu lunio dyfodol y llwybr yma.
Pwrpas y ffurflen hon a’r sesiynau ymgysylltu yw casglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth T8 Traws Cymru fel y gallwn sicrhau bod y gwasanaeth mor hygyrch, cyfforddus, effeithlon a chyfleus â phosibl i gynifer o bobl â phosibl.
Mae'r ffurflen yn cynnwys 12 cwestiwn ac ni ddylai gymryd mwy nag ychydig funudau i'w chwblhau. Bydd yr holiadur yn cau ar 15 Medi.
www.smartsurvey.co.uk/s/TrawsCymruT8/
Neu, galwch i mewn i un o'n sesiynau ymgysylltu.
Dydd Mawrth 3 Medi
09:30 – 11:30
Canolfan Daniel Owen
Ffordd y Iarll
Yr Wyddgrug
CH7 1AP
13:30 – 15:30
Llyfrgell Rhuthun
Stryd y Llys
Rhuthun
LL15 1DS
Diolch am eich amser.