Arbedwch arian gyda TrawsCymru
1 mis yn ôl

Wrth i brisiau tanwydd barhau i godi a’r costau ynghlwm â bod yn berchen ar gar hefyd yn codi, efallai y byddwch am wybod sut y gall dal y bws arbed arian i chi. Gall cymryd un daith yn unig ar y bws yn lle mynd yn y car arbed arian i chi yn y tymor hir. Mae TrawsCymru yma i'ch cludo chi i’ch cyrchfan ac i arbed arian i chi ar yr un pryd.
Arbedion bob dydd
Gadewch i ni ystyried teithiwr sy’n teithio’n rheolaidd rhwng Aberaeron ac Aberystwyth gan ddefnyddio'r gwasanaeth T1.
Mae tocyn diwrnod i oedolion yn costio £5.75 (Mae tocyn diwrnod 16-21 gyda Fy Ngherdyn Teithio yn costio £3.80)
Mae tocyn wythnos i oedolion yn costio £20 (Mae tocyn wythnos 16-21 gyda Fy Ngherdyn Teithio yn costio £13.30)
Gallwch ddarganfod prisiau tocynnau ar gyfer ein holl lwybrau a'u prynu yma: Prisiau a Thocynnau - Trafnidiaeth Cymru
Byddai'r daith honno mewn car yn costio £1.96 bob ffordd mewn tanwydd a £6.60 am le parcio drwy’r dydd yn Aberystwyth.
Felly pe baech yn gwneud y daith hon bedair gwaith yr wythnos byddai hynny'n costio £20 i chi gan ddefnyddio'r bws, a £42.08 gan ddefnyddio'ch car. Gallai defnyddio’r bws yn lle’r car am wythnos arbed £22.08 i chi.
Manteision dal y bws
Felly mae'n amlwg y gall dal y bws yn lle teithio yn y car arbed arian i chi yn uniongyrchol, ond mae manteision mawr eraill y tu hwnt i arbedion ariannol y gallwch eu mwynhau.
1. Teithio di-straen heb boeni am barcio
2. Amser i gerdded, darllen neu ymlacio ar y daith
3. Lleihau ôl troed carbon
4. Mynediad i Wi-Fi am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau
5. Gyrwyr proffesiynol sy’n gallu delio gydag amodau tywydd a thraffig
Newid eich ffordd o deithio
Does dim rhaid i’r broses o gyfnewid y car am y bws fod yn bopeth ar unwaith neu ddim byd o gwbl. Efallai y byddwch am ddechrau drwy:
- Defnyddio gwasanaethau TrawsCymru ar gyfer teithiau hirach tra'n parhau i ddefnyddio’ch car ar gyfer teithiau lleol
- Cael profiad o’r gwasanaeth er mwyn gwneud teithiau hamdden ar benwythnosau cyn ymrwymo i’w ddefnyddio yn ystod yr wythnos
- Cyfuno teithio ar y bws gydag opsiynau trafnidiaeth eraill fel trenau neu seiclo
Y costau cudd o fod yn berchen ar gar
Nid yw’r gost o yrru car wedi'i gyfyngu i gost tanwydd yn unig, mae'r costau gwirioneddol yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn rydych chi'n ei dalu wrth y pwmp petrol. Ystyriwch y costau blynyddol hyn:
- Pryniant/Dibrisiant bob blwyddyn: £1,251
- Petrol a Diesel: £747
- Yswiriant Car: £621
- Trwsio a gwasanaethu’r cerbyd: £473
- Treth ffordd ar gyfer cerbydau modur: £153
- Ffioedd parcio, tollau a thrwyddedau (ac eithrio dirwyon moduro): £39
- Rhent garej, costau eraill (ac eithrio dirwyon), golchi’r car ac ati: £44
- Tanysgrifiadau ar gyfer sefydliadau moduro (ee AA a RAC): £19
- Cynnyrch gwrth-rewi, dŵr batri, deunyddiau glanhau: £10
Costau rhedeg blynyddol ar gyfer car: £3,357 (Average Cost to Run a Car UK 2025 | NimbleFins)
Mae hyn yn cyfateb i gost flynyddol o £3,357, neu tua £279 y mis, a hynny cyn ystyried y gost o brynu’r cerbyd yn y lle cyntaf.
Casgliad
P'un a ydych chi'n cymudo i’r gwaith, yn ymweld â theulu neu'n archwilio Cymru, mae TrawsCymru yn cynnig opsiwn arall yn lle gyrru. Trwy newid eich ffordd o deithio, gallwch arbed arian tra’n cyfrannu at drafnidiaeth fwy cynaliadwy i Gymru’r dyfodol.
Y ffordd orau o wirio'r arbedion posibl hyn yw cyfrifo eich costau car ar hyn o bryd a'u cymharu â phrisiau TrawsCymru ar gyfer eich teithiau rheolaidd. Cofiwch hefyd fod tocynnau unffordd a thocynnau dwyffordd ar gael i'w prynu ar y bws gydag arian parod neu gerdyn digyswllt. Efallai y bydd y canlyniadau'n eich synnu a'ch waled yn diolch i chi hefyd.