Mis Dal y Bws 2024

5 mis yn ôl Sun 1st Sep 2024

Mis Dal y Bws. Dewch ar y daith. Medi 2024

Rydyn ni am fachu ar y cyfle i deithio ar fws yn ystod Mis Dal y Bws 2024, a gallwch chi wneud yr un peth, gyda 25% oddi ar docyn penodol ar yr ap.

Nod Mis Dal y Bws yw tynnu sylw at fanteision teithio ar y bws, nid yn unig i unigolion ond i'r amgylchedd a'r gymuned leol, yn ogystal ag ysbrydoli pobl i adael y car gartref a dal y bws i'w cyrchfan nesaf.

I'ch helpu i gymryd rhan, rydym yn cynnig gostyngiad o 25% ar docyn diwrnod ar yr ap ar wasanaethau TrawsCymru T1, T1C, T2, T3, T6, T10 neu T22 drwy gydol mis Medi pan fyddwch yn nodi cod disgownt CTBM24.

Mae bysiau'n chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, gan gysylltu pobl â swyddi, ysgolion, gofal iechyd a gweithgareddau hwyliog. Maent hefyd yn well i'r amgylchedd gyda bysiau lleol yn allyrru 35.1gCO2 y km yn llai na char ar gyfartaledd*, a bydd eich balans banc yn edrych yn iachach hefyd, gyda phris tocyn wythnosol yn costio llai na 3% o'r cyflog wythnosol o’i gymharu â 9% ar gyfer cerbyd preifat**

Yn ystod Mis Dal y Bws, beth am archwilio golygfeydd hardd Cymru ar fws? Mae ein llwybrau'n mynd trwy rai o ardaloedd mwyaf prydferth y wlad. O draethau hardd i fryniau ymdonnog, byddwch yn gweld cymaint, a gyda 25% oddi ar bris tocyn ap, mae'n fwy caredig i'ch cyfrif banc.

Teithiwch yn ddoethach ac yn wyrddach ym mis Medi. Lawrlwythwch ap TrawsCymru a defnyddiwch god CTBM24 i hawlio'ch tocyn diwrnod am bris gostyngol.

Cod disgownt

Am gyfnod cyfyngedig, gallwch fwynhau 25% oddi ar docyn diwrnod ar yr ap i'w ddefnyddio ar wasanaethau T1, T1C, T2, T3, T6, T10 neu T22 trwy ddilyn y camau isod:

  1. Lawrlwythwch ap TrawsCymru a chrëwch gyfrif
  2. Cliciwch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf a dewiswch 'Tocynnau ffôn symudol'
  3. Dewiswch eich llwybr – T1, T1C, T2, T3, T6, T10 neu T22
  4. Dewiswch y tocyn diwrnod a chliciwch 'Prynu nawr'
  5. Gwiriwch fod y tocyn yn addas i'ch anghenion.  Os ydyw, cliciwch ‘Talu’.
  6. Dewiswch ar gyfer pwy yw'r tocyn.  Os yw'n addas i chi, dewiswch ‘I mi’.  Fel arall, gallwch roi'r tocyn i rywun arall.
  7. Cyflwynwch fanylion eich cerdyn
  8. Cliciwch 'Ychwanegu cod disgownt'
  9. Rhowch 'CTBM24' yn y blwch testun a chliciwch ar 'Ymgeisio'
  10. Prynwch y tocyn
  11. Bydd tocynnau yn ymddangos yn yr adran tocynnau ffôn symudol, yn syml, rhaid actifadu’r tocyn cyn i chi deithio a sganio'r cod QR ar y peiriant tocynnau wrth i chi fynd ar y bws.
  12. Mwynhewch eich taith!

Telerau ac Amodau

  • Mae modd prynu un tocyn am bris gostyngol fesul cyfrif ap
  • Mae’r cod disgownt yn ddilys rhwng 1 - 30 Medi
  • Dim ond ar gael ar gyfer tocynnau ap
  • Ar gael i oedolion, plant a deiliaid Fy Ngherdyn Teithio 16-21 oed
  • Rhaid defnyddio tocyn o fewn blwyddyn i'w brynu
  • Ni fydd unrhyw ad-daliad ôl-weithredol rhannol neu lawn ar gyfer tocynnau a brynwyd am y pris llawn heb god disgownt
  • ddim ar gael ar gyfer tocynnau dydd Powys

 

* 2019 Government greenhouse gas conversion factors for company reporting: Methodology paper (publishing.service.gov.uk)

**taspartnership.co.uk/wp-content/uploads/2018/02/TAS-7th-National-Fares-Survey-2022.pdf

 

 

* 2019 Government greenhouse gas conversion factors for company reporting: Methodology paper (publishing.service.gov.uk)

**taspartnership.co.uk/wp-content/uploads/2018/02/TAS-7th-National-Fares-Survey-2022.pdf