Gwyliau Banc 2025
1 mis yn ôl

Gwyliau Banc 2025
Mae Gwyliau’r Banc yn golygu antur, p’un a ydych am archwilio mannau newydd, ymweld ag anwyliaid neu am fwynhau’ch tref enedigol. Pam ddim ymlacio a gadael i fws TrawsCymru eich cludo yno yn lle becso am barcio’r car.
Rydyn ni wedi dethol rhai o’n hoff fannau, yn ogystal â rhai mannau llai adnabyddus, sy’n berffaith ar gyfer archwilio a darganfod mwy o Gymru.
T2/T22 - Caernarfon
Mae Castell Caernarfon, sy’n Safle Treftadaeth Byd UNESCO, yn un o’r cestyll canoloesol mwyaf eiconig nas difethwyd yng Nghymru. Adeiladwyd yn wreiddiol gan y Brenin Edward I ar ddiwedd y 13eg ganrif fel rhan o’i ymgyrch i oruchafu Cymru. Mae gan y castell tyrrau polygon eithriadol a mynedfa foethus, sy’n symbol o rym a chryfder. Gall ymwelwyr archwilio’i hanes syfrdanol a mwynhau golygfeydd prydferth dros yr Afon Menai.

T6 - Abertawe
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn gyrchfan syfrdanol sy’n dod â hanes diwydiannol a morol Cymru’n fyw. Lleolir yng nghalon Marina Abertawe gydag arddangosfeydd, ffilmiau ac arteffactau sy’n dangos dros 300 mlynedd o arloesedd. Gall ymwelwyr archwilio ystod o themâu o fwyngloddio i dechnoleg fodern mewn amgylchedd deinamig, addas ar gyfer teuluoedd. Gyda mynediad am ddim a lleoliad anhygoel, rhaid yw ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau er mwyn datguddio treftadaeth gyfoethog Cymru.

T2 - Machynlleth
Archwiliwch brifddinas hynafol Cymru, Machynlleth, safle senedd Owain Glyndŵr ym 1404 lle cafodd ei goroni’n Dywysog Cymru. Crwydrwch drwy’r strydoedd hanesyddol a fod yn rhan o hanes. Os ydych chi’n ymweld ar ddydd Sadwrn, gallwch ddysgu am rôl allweddol Glyndŵr yn hanes Cymru yng Nghanolfan Owain Glyndŵr, neu ymweld â MOMA Cymru i ymgolli mewn celfyddydau gweledol, cerflunio a ffotograffiaeth.

T3 - Ambermaw
Chwilio am daith gerdded ar ŵyl y banc? Yna teithiwch i Abermaw. Yn eistedd ar ymyl Parc Cenedlaethol Eyri (Eryri) a pharc Llwybr Arfordirol Cymru, mae taith gerdded i bawb a phob gallu. Cerddwch i fyny rhai o copaon uchaf a mwynhewch olygfeydd am filltiroedd, neu ewch am dro ar hyd yr arfordir fel rhan o lwybr 870 milltir o hyd gyda cherfluniau a chelf wedi'u gwasgaru ar hyd y ffordd. Ar ôl diwrnod prysur, beth am fynd i lawr i'r traeth neu wylio'r cychod yn Harbwr Abermaw.

T7 - Chepstow
Yng nghanol tref Cas-gwent ac ar ymyl yr Afon Gwy mae un o gaerau carreg hynaf Prydain, Castell Cas-gwent. Wedi'i adeiladu ym 1067 gan gynghreiriad agos i Gwilym Goncwerwr, gall ymwelwyr archwilio'r Tŵr Mawr a darganfod mwy am ei rôl yng nghoncwestau'r Normaniaid.

T4 - Storey Arms (Pen y Fan)
Ewch allan ar antur a cherdded i gopa Pen y Fan, y copa uchaf yn Ne Cymru. Gyda llwybrau ar gyfer gwahanol alluoedd, bydd ymwelwyr yn gallu cyrraedd y copa 2907 troedfedd uwchben lefel y môr mewn dim o dro. Mae gwasanaeth T4 TrawsCymru yn stopio yn Storey Arms, y lle perffaith i ddechrau eich taith heb boeni am barcio.
Os ydych chi'n bwriadu cerdded i fyny Pen y Fan, cynlluniwch ymlaen llaw, gwisgwch yn briodol a gwiriwch y tywydd.

Prynwch docyn ar ein ap (neu defnyddiwch Tap Ymlaen, Tap Ymadael lle bo’n bosib), ymlaciwch a dechreuwch ar eich antur y gwanwyn!