5 lle i ymweld â wrth fws dros yr Hydref
4 mis yn ôl
Pan ddaw tymor yr hydref yn ei holl ogoniant, mae Cymru'n trawsnewid yn glytwaith lliwgar o goch, oren, a melyn. Beth am werthfawrogi’r golygfeydd drwy neidio ar fws TrawsCymru ac ymweld â rhai o fannau mwyaf trawiadol Cymru yr hydref hwn? Heb y straen o barcio a chyda digonedd o lwybrau prydferth, mae TrawsCymru yn ei gwneud hi'n hawdd crwydro’r wlad.
Dyma bum lleoliad perffaith ar gyfer antur hydrefol, a gellir cyrraedd pob un ohonynt ar wasanaethau TrawsCymru.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan berffaith i weld lliwiau syfrdanol yr hydref wrth i'r mynyddoedd a'r cymoedd gael eu trawsnewid yn gynfas o goch, oren ac aur. Yn enwog am ei harddwch golygfaol, mae'n fan delfrydol ar gyfer mynydda, teithiau cerdded hamddenol neu, yn syml, i fwynhau'r awyr iach. P'un a ydych chi'n dilyn llwybr i gopa'r Wyddfa neu'n archwilio'r llynnoedd a'r coedwigoedd heddychlon, mae'r parc yn cynnig rhywbeth i bawb yn ystod tywydd ffres yr hydref.
Daliwch y bws T10 i Fetws y Coed, sy’n borth i lawer o lwybrau ac atyniadau poblogaidd y parc. Mae’r daith ar droed o’r arhosfan bysiau i’r parc yn fer, fel y gallwch archwilio'r rhyfeddod naturiol hwn yn hawdd.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ewch ar daith gerdded syfrdanol i Ben y Fan neu ewch am dro drwy goedwigoedd hydrefol y parc prydferth hwn. Mae digon o lwybrau sy’n addas ar gyfer pob gallu, gan ei wneud yn ddiwrnod allan perffaith, p'un a ydych chi'n ddringwr profiadol neu'n ffansio taith gerdded ysgafn.
Cymerwch seibiant yn un o gaffis lleol Aberhonddu a mwynhewch ddiod boeth ar ôl eich antur a golygfeydd o dirwedd fythol gyfnewidiol yr ardal.
Perffaith ar gyfer diwrnodau ffres yr hydref
Gallwch ddal y T4 neu’r T14 i gyrraedd Pen y Fan ar gyfer taith gerdded fendigedig neu gallwch fynd ar fws T6 i Aberhonddu, sy'n cynnig mynediad hawdd i wahanol lwybrau ac atyniadau o fewn y parc.

Llyn Tegid, Bala
Crwydrwch o amgylch Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru, neu, yn syml, mwynhewch lonyddwch a golygfeydd syfrdanol yr hydref.
Mae digon o lwybrau cerdded ar gael, ac ar gyfer y rhai mwy anturus, gallwch fwynhau caiacio neu badlfyrddio yng Nghanolfan Antur a Gweithgareddau Dŵr y Bala. Peidiwch â methu tref swynol y Bala, gyda'i siopau a chaffis hardd, lle gallwch gynhesu ar ôl diwrnod a dreuliwyd ger y llyn.
Neidiwch ar y gwasanaethau T3 i'r Bala neu Lyn Tegid, a byddwch o fewn cyrraedd agos ar droed o harddwch naturiol a llonyddwch y gyrchfan hardd hon.

Parc Gwledig Loggerheads
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn gyrchfan hydref perffaith i deuluoedd a phlant, gan gynnig tirweddau tymhorol bywiog a digon o hwyl yn yr awyr agored. Mae llwybrau cerdded golygfaol y parc yn arwain trwy goetiroedd, ar hyd afonydd, a heibio i glogwyni calchfaen, gan greu lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio natur a gwylio bywyd gwyllt. Bydd plant wrth eu bodd â’r maes chwarae antur a dysgu am fywyd gwyllt lleol yn y ganolfan ymwelwyr, sy’n cynnig brofiad addysgol a chyffrous.
Neidiwch ar wasanaeth bws T8, ac mae’r parc gwledig tua 5 munud o’r safle bws.

Llun: Clwydian Range and Dee valley
Dolydd yr Esgob, Henffordd
Mwynhewch daith gerdded heddychlon yn yr hydref ar hyd Afon Gwy, lle gallwch fwynhau lliwiau newidiol y coed a'r awyrgylch tawel ar lan yr afon. Mae'r dolydd yn berffaith ar gyfer diwrnod allan hamddenol gyda digon o le agored i fwyta picnic neu chwarae, ac mae meinciau ar hyd yr afon i chi fwynhau'r golygfeydd godidog. Gorffennwch eich taith gerdded drwy grwydro ar hyd yr afon a gwerthfawrogi’r llwybrau ysblennydd. Ac yn goron ar y cyfan, beth am archwilio canol dinas Henffordd, sydd ond dafliad carreg i ffwrdd o’r man gwyrdd hwn?
Daliwch y gwasanaeth T14 i Stryd y Bont, ac mae'n daith 5 munud ar droed i Ddolydd yr Esgob.
Llun: Visit Wales
Yr hydref hwn, beth am osgoi’r drafferth o yrru, a gadewch i TrawsCymru fynd â chi i galon mannau harddaf Cymru. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch liwiau bywiog y tymor.