5 lle yng Ngorllewin Cymru y gallwch deithio iddynt ar fws
Oes gennych chi gynlluniau ar y gweill I deithio i Orllewin Cymru? Neidiwch ar y T5 a byddwch yn barod am antur.
Os nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau gyda’ch cynlluniau, bwriwch olwg ar ein 5 dewis gorau o leoedd y gallwch chi fynd iddyn nhw.

Aberporth
Os ydych chi'n chwilio am brofiad glan môr go iawn, chwiliwch ddim pellach nag Aberporth. Gyda dau draeth Baner Las i frolio amdanynt, ewch i Aberporth am ddiwrnod o archwilio pyllau creigiog a chadw llygad am ddolffiniaid. Crwydrwch y pentref pysgota ac ewch i mewn i un o'r tafarndai lleol i gwblhau’r daith.

Fferm Bargoed
Os ydych chi'n chwilio am wyliau gartref sydd ychydig yn wahanol, ewch i Fferm Bargoed, sydd wedi ennill sawl gwobr. Gan gynnig carafanau, gwersylla a glampio, mae gan y safle bopeth y gallech chi ei ddymuno o wyliau arfordirol gyda’r teulu. Yno, fe gewch chi fwynhau tybiau poeth preifat (yn dibynnu ar y lleoliad), siop fferm, bistro, ysgubor chwarae i blant a pharc trampolîn. A chyn bo hir - bydd parc dŵr dan do ac awyr agored yno hefyd.

Llun gan M J Roscoe/CC BY-SA 2.0
Castell Aberteifi
Gyda chyfoeth o 900 mlynedd o hanes, mae Castell Aberteifi yn cynnig cipolwg unigryw ar orffennol Ceredigion. Archwiliwch yr ystafelloedd Sioraidd, y gerddi wedi'u tirlunio a bwciwch yr Ystafell Ddianc i ddatrys dirgelwch.
Mae Castell Aberteifi hefyd yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau gan gynnwys eu Sinema’r Machlud, felly cadwch lygad ar yr hyn sydd ar y gweill yno cyn eich taith.

Cei Newydd
Yn bentref bach ond arbennig tu hwnt, mae gan Gei Newydd bethau di-ri i'ch diddanu. Wedi'i leoli yn y pentref mae traeth Baner Las Cei Newydd, lle gallwch chi fynd i syrffio barcud, padlfyrddio a mwy.
Crwydrwch drwy’r pentref lle bydd tafarndai, bwytai a siopau annibynnol i’w harchwilio yn aros amdanoch. Peidiwch â methu’r cyfle i ymweld â bwyty arobryn y Lime Crab, i fwynhau pysgod a sglodion blasus.

Rheilffordd Cwm Rheidol
Cewch brofi arfordir Cymru fel erioed o'r blaen ar Reilffordd Cwm Rheidol. Neidiwch ar y trên stêm ac eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y cefn gwlad prydferth.
O Aberystwyth i Bontarfynach eiconig sy’n swatio ym Mynyddoedd Cambria, nid yw'r daith fythgofiadwy hon yn un i'w cholli.
Cynlluniwch eich taith drwy Orllewin Cymru yma: : T5 - Aberystwyth - Hwlffordd