Mae Dan yr Ogof yn enfawr; mae naws y Gadeirlan yn hyfryd; ac mae yna rywbeth iasol am yr Asgwrn: bydd y tair prif ogof yn deffro eich dychymyg yn y Ganolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol. At hynny mae yna barc anferth sy’n llawn deinosoriaid, pentref o’r Oes Haearn, Canolfan Ceffylau Gwedd ac amgueddfa, sy’n ddigon i’ch cadw yn brysur am ddiwrnod cyfan. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr i’w gweld ar wefan y Ganolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol.

Trefnwch eich taith yma Ymweld â'r wefan