Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru
Beth am fynd i arfordir Ceredigion am y dydd neu ymweld ag arfordir Gorllewin Sir Benfro?
Mae’r rhwydwaith o wasanaethau bws sydd yn y Sir yn cysylltu â bron pob prif dref a phentref, ac yn cyrraedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyfrytaf. Mae’r olygfa yng nghefn gwlad yn amrywio o drefi marchnad i bentrefi tawel sydd wedi’u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf hardd a dilychwin. Gallwch ymweld â chestyll hynafol sy’n rhan annatod o hanes yr ardal a chanolfannau sy’n arddangos hen grefftau traddodiadol, trefi sy’n cyfuno cyfleusterau siopa modern â nodweddion hanesyddol naturiol, ac amrywiaeth o atyniadau i deuluoedd ym mhob tywydd.
Ers cyflwyno Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru mae’n hawdd ymweld â’r llefydd hyn ar fws. Yn syml iawn rydych yn prynu’r tocyn ar y bws y byddwch yn teithio arno gyntaf a’i ddefnyddio i fynd a dod fel y mynnwch gydol y dydd.
Mae’r tocyn yn ddilys ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws lleol yng:
- Ngheredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
Bydd y Tocyn Crwydro ddim yn cynnwys:
- Gwasanaethau sydd ar gael i plant ysgol yn unig
- Gwasanaeth National Express 507/508/528
- Gwasanaethau 167, T1c rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd, T1s, X14, neu X26
Cofiwch fod eich Tocyn Crwydro yn caniatáu teithio di gyfyng ar y dyddiad y prynir y tocyn ar y bysiau hynny sy’n rhan o’r cynllun, sy’n golygu y gallwch dorri eich taith yma ac acw fel y mynnwch.
Mae Tocyn Crwydro Diwrnod yn costio £9.00 i oedolion a £4.75 i blant. Mae Tocyn Crwydro Wythnos yn costio £36.00 i oedolion a £17.00 i blant.