Croeso I TrawsCymru
Mae gwasanaethau bws TrawsCymru dros bellter hirach yn rhan bwysig o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru.
Caiff y bysiau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent yn darparu cysylltiadau hanfodol o ran trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer llawer o gymunedau ledled Cymru. Maent yn cysylltu â gwasanaethau rheilffyrdd ac yn cynnig dull hygyrch, fforddiadwy a charedig i’r amgylchedd o deithio i ymwelwyr, sy’n eu galluogi i fwynhau golygfeydd hardd Cymru.
Mae datblygiadau cyffrous yn digwydd ar wasanaethau TrawsCymru – byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â theithwyr ar ein bysiau a thrwy ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
Lawrlwythwch ein ap i gynllunio eich taith, prynu eich tocynnau, tracio eich bws a chael gwybod faint o CO2 y byddech yn ei arbed.