Tocyn TrawsCambria

Archwiliwch arfordir gorllewin Cymru gyda'n tocyn TrawsCambria

Dechreuwch gynllunio eich antur nesaf ar hyd arfordir Gorllewin Cymru gyda chymorth ein tocyn TrawsCambria, sydd ond yn £6.50.

O Draethau Baner Las a chyfleoedd i weld dolffiniaid yng Ngheinewydd i fwyd lleol a chestyll yn Aberystwyth, mae antur yn aros amdanoch ar hyd Arfordir Cambria.

Yn ddilys ar wasanaethau T1, T2/T28, T3/T3C a T5 rhwng Aberteifi ac Abermaw*.

Tybed sut allwch chi wneud y gorau o'r tocyn yma? Rydym wedi creu rhestr o awgrymiadau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw yma: https://traws.cymru/cy/explore-west-wales-with-trawscambria-ticket

*Yn ddilys ar y gwasanaethau canlynol:
T1 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron
T2 / T28 rhwng Dolgellau ac Aberystwyth
T3 / T3C rhwng Abermaw a Dolgellau
T5 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi