Pethau i'w gwneud ar hyd llwybr y T51

Ydych chi wedi bod ar ein gwasanaeth T51 newydd eto? Gyda chysylltiadau hawdd a gwasanaeth newydd ar y Sul i Wrecsam, allwn ni ddim aros i'ch croesawu ar y bws. Os ydych chi'n awyddus i dreulio diwrnod allan ar hyd y llwybr newydd, mae digon i'w archwilio - dewch o hyd i'n rhestr o argymhellion isod.

 

Rhuthun

Ai swyn tylwyth teg yw eich syniad chi o ddiwrnod allan bendigedig? Chwiliwch ddim pellach na thref Rhuthun, sydd wedi'i lleoli yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. O'r tŷ tref Tuduraidd hyfryd i ysbryd yr Arglwyddes Grey yng Nghastell Rhuthun, datgelwch ganrifoedd o hanes ar eich teithiau. Ar dir y castell mae'r Gerddi Eidalaidd hardd, sy’n eich gwahodd i gamu'n ôl mewn amser. Ewch yn ôl i'r dref am damaid i'w fwyta, lle byddwch chi'n dod o hyd i amrywiaeth o fwytai a thafarndai lleol i'w harchwilio.

 

Cadeirlan Llanelwy

Wedi'i lleoli yn ail ddinas leiaf y DU mae Cadeirlan Llanelwy. Dysgwch am hanes y sefydliad, lle mae gweddïau wedi cael eu cynnig bob dydd ers dros 1,400 o flynyddoedd. Galwch heibio Ystafell De'r Cyfieithwyr sydd ar y safle, lle gellir mwynhau cinio ysgafn a the prynhawn.

 

Theatr Fach y Rhyl

Os hoffech chi archwilio sîn gelfyddydau leol, ewch i Theatr Fach y Rhyl. Yn adnabyddus fel y theatr bwrpasol gyntaf i blant yn y DU, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau. O sioe gerdd llwyfan Disney i fand teyrnged enwog ABBA, ewch i'w tudalen i gynllunio'ch ymweliad.

 

Castell Dinbych

Archwiliwch dreftadaeth ganoloesol Castell Dinbych. Dysgwch am y frwydr frenhinol rhwng Dafydd ap Gruffudd a’r Brenin Edward I a sut y trawsnewidiodd y digwyddiadau strwythur y castell. Os ydych chi eisiau dathlu’r tymor arswydus yn Ninbych, peidiwch â methu’r Llwybr Calan Gaeaf Arswydus ar 31 Hydref.

 

Cae Ras Wrecsam

Chwilio am hwyl bêl-droed wedi'i chyfuno â hud Hollywood? Ewch i weld clwb pêl-droed proffesiynol hynaf Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam. O dan y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dod yn ffenomen fyd-eang. Gwyliwch gêm ar y Cae Ras neu ewch ar daith o amgylch y stadiwm a'r ardal leol.

Cynllunio eich taith yma