Ydych chi am archwilio mwy o’r gwasanaeth T4? O harddwch y Bannau Brycheiniog i amgueddfa decstilau hanesyddol, mae digon i’w ddarganfod. Gallwch hefyd ddefnyddio ein tocyn diwrnod T4 Cyswllt newydd i wneud eich taith yn haws, gan gyfuno teithiau trên a bws yn un tocyn syml. Darllenwch ymlaen i weld y pethau rydym yn argymell i chi eu harchwilio gyda ni ar y bws.
Pen y Fan
Wyddoch chi fod ein bws T4 yn eich gollwng wrth droed y mynydd eiconig, Pen y Fan? Gwisgwch eich esgidiau cerdded a mwynhewch y golygfeydd ysblennydd ar un o'r copaon uchaf yn ne Cymru, heb orfod poeni am barcio.
Safle bws: Storey Arms.
Basn Camlas Aberhonddu, Aberhonddu
Ydych chi’n chwilio am daith gerdded haws? Ystyrir mai hon yw’r gamlas harddaf ym Mhrydain, felly mae crwydro ar hyd Basn Camlas Aberhonddu yn ffordd berffaith o dreulio prynhawn. Wedi'ch amgylchynu gan olygfeydd godidog, cerddwch ar hyd y gamlas dawel a mwynhewch y byd natur a'r adar o'ch cwmpas.
Os nad ydych am gerdded, gallwch logi cwch ar gyfer taith hamddenol ar hyd y gamlas.
Safle bws: Cyfnewidfa Drafnidiaeth Aberhonddu
Y Gaer, Aberhonddu
Yng nghanol tref Aberhonddu saif yr amgueddfa dreftadaeth, Y Gaer. Mae mynediad yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd ac mae'n lle gwych i gamu'n ôl mewn amser a darganfod treftadaeth leol Aberhonddu yn ogystal â hanes cenedlaethol Cymru. Mae'r arddangosion yn amrywio o hanes y Rhufeiniaid i Reilffordd y Cambrian, yn ogystal ag Ystafell Ysgol Fictoraidd a'r hen Lys Ynadon.
Gyda llyfrgell a chaffi ar y safle, mae'n hawdd treulio cwpl o oriau yma gyda'r teulu.
Safle bws: Bulwark
Theatr Soar, Merthyr Tudful
Darganfyddwch ddiwylliant y celfyddydau lleol yn y capel hwn sydd wedi’i adnewyddu. Yng nghalon cymuned Merthyr, mae Theatr Soar yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau. O sesiynau Holi ac Ateb byw gydag actorion i gynyrchiadau lleol, mae yna lawer i ddewis ohono. Ewch i'w tudalen ‘Beth Sydd Ymlaen’ i gynllunio'ch taith.
Safle bws: Gorsaf Fysiau Merthyr
Amgueddfa Decstiliau Y Drenewydd, Y Drenewydd
Camwch yn ôl mewn amser yn Amgueddfa Decstiliau'r Drenewydd. Wedi'i hadeiladu yn y 1830au fel ffatri wehyddu â gwyddiau llaw, dysgwch am ddatblygiad y Drenewydd yn ganolfan ddiwydiannol. Archwiliwch yr arddangosion crefftau gwlân modern a gwyliwch arddangosiadau gan arbenigwyr ym meysydd nyddu, gwehyddu a gwneud cwiltiau.
Safle bws: Gorsaf fysiau Y Drenewydd, Safle 2
Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd
Profwch gelf o'r radd flaenaf yn Oriel Davies Gallery, oriel gelf gyhoeddus ragorol. Yn cynnwys celf gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol, ewch i'r Oriel a’r mannau arddangos i ddysgu mwy am gelf gyfoes, yn rhad ac am ddim. Galwch heibio i’r caffi wedyn i fwynhau paned a rhywbeth melys.
Safle bws: Gorsaf Fysiau Y Drenewydd, Safle 2
Mae llawer i'w ddarganfod pan fyddwch chi'n teithio gyda ni ar y T4. Cynlluniwch eich taith: https://traws.cymru/cy