50 o bethau i'w gwneud dros rhwydwaith TrawsCymru

Mae 76%* o bobl yn dweud eu bod nhw eisiau teithio'n fwy cynaliadwy - mae teithio ar y bws yn ddechrau gwych.

P'un a ydych chi eisiau rhoi’r gorau i ddefnyddio’r car ar gyfer eich taith foreol neu ddod o hyd i gyrchfannau newydd ar gyfer eich diwrnod allan nesaf, mae gennych chi ddigonedd o ddewis wrth deithio ar y bws. Rydym wedi casglu 50 o leoedd y gallwch ymweld â nhw ar hyd rhwydwaith TrawsCymru, o swyn arfordirol Aberaeron i olygfeydd godidog y Bala.

*Sustainable Travel Report: Types, Trends and Destination Statistics | SEO Travel

 

T1, T1A, T1X - Caerfyrddin - Aberystwyth

1. Castell Aberystwyth
Golygfeydd panoramig o'r môr, hanes canoloesol ac adfeilion ysblennydd - croeso i Gastell Aberystwyth. Archwiliwch y gaer Edwardaidd hon a chael cipolwg ar orffennol Ceredigion ar eich taith i arfordir Gorllewin Cymru.

2. Rheilffordd Clogwyn Aberystwyth
Gweld Aberystwyth o'r awyr ar reilffordd ceblau ail hirach Prydain. Aiff â chi i gopa Mynydd y Cyfansoddiad i fwynhau golygfeydd syfrdanol ac ymweld â chamera 'obscura' mwyaf y byd. Galwch i mewn i Y Consti am bryd o fwyd blasus i orffen eich taith.

3. Rheilffordd Cwm Rheidol
Neidiwch ar drên Rheilffordd Cwm Rheidol a phrofi arfordir Cymru fel erioed o'r blaen. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y llwybrau golygfaol o gefn gwlad ysblennydd.  

4. Amgueddfa Ceredigion
Dewch i ddarganfod hanes a diwylliant lleol yng nghanol Aberystwyth. Mewn theatr Edwardaidd hardd, teithiwch yn ôl mewn amser a mwynhau arddangosfeydd amrywiol.

5. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Profwch ganolbwynt creadigrwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. O sinema a theatr i arddangosfeydd a ffeiriau crefft, mae digon i'w fwynhau trwy gydol y flwyddyn.

6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae byd o lyfrau yn eich disgwyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn gartref i dros 6 miliwn o lyfrau, mae casgliadau hefyd yn cynnwys ffilm, llawysgrifau, ffotograffau a mapiau. Gan gynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion, dyma'r lle perffaith i ymlacio gyda llyfr da.

7. Aberaeron
Os ydych chi'n chwilio am dref arfordirol Gymreig i ymweld â hi, Aberaeron yw'r lle i chi. O siopau a bwytai annibynnol i weld dolffiniaid, mae digon i'w fwynhau. Dechreuwch trwy grwydro ar hyd yr harbwr godidog - lle delfrydol i ddechrau ar eich antur.

 

T1C - Aberystwyth - Caerdydd

8. Castell Caerdydd
Gyda dros 2,000 o flynyddoedd o hanes yng nghanol y ddinas, Castell Caerdydd yw'r lle i ymweld ag ef. Camwch yn ôl mewn amser ac archwiliwch y sylfeini Rhufeinig, pensaernïaeth Gothig Fictorianaidd a gerddi gwyrdd.

9. Bae Caerdydd
Llwybr arfordirol, sinema glan y dŵr a Chanolfan Mileniwm eiconig - unrhyw amser o'r flwyddyn, mae Bae Caerdydd yn cynnig diwrnod allan gwych. Mwynhewch y golygfeydd hardd ar hyd y morglawdd cyn ymlwybro i'r glannau i archwilio'r atyniadau. Beth am wylio sioe yn Canolfan y Mileniwm a chael pryd yn un o'r nifer o fwytai.

10. Stadiwm Principality
Archwiliwch stadiwm mwyaf Cymru, yr enwog Stadiwm Principality. Archebwch daith i fynd y tu ôl i'r llenni, archwilio'r nodweddion godidog a dysgu am hanes y stadiwm. Os ydych chi'n teimlo'n anturus, prynwch docyn ar gyfer 'Scale Adventure', lle gallwch chi ddringo i ben y stadiwm, teithio ar y wifren sip ac abseilio i lawr.

11. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Camwch yn ôl mewn amser yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn gartref i ddinosoriaid diddorol, casgliadau celf a'r mamoth eiconig, mae yna lawer i'ch diddanu. Yn ogystal â'u harddangosfeydd rheolaidd, mae digon o stondinau diddorol i'w harchwilio.

12. Techniquest
Archwiliwch y byd cyffrous o wyddoniaeth a thechnoleg yn Techniquest. Gyda dros 100 o arddangosfeydd rhyngweithiol, mae digon i blant ac oedolion ei fwynhau. O lwybrau AR a sioeau gwyddoniaeth byw i'r piano anferth eiconig, mae Techniquest yn cynnig profiad bythgofiadwy.

 

T2 - Bangor - Aberystwyth

13. Castell Caernarfon
Ar lannau Afon Seiont, dysgwch am dreftadaeth ganoloesol frenhinol yn un o adeiladau mwyaf yr Oesoedd Canol. Mae Castell Caernarfon yn gaer-balas ac mae'n perthyn i gestyll eraill Edward I - cestyll Conwy, Biwmares a Harlech fel Safle Treftadaeth y Byd.

14. Dolgellau
Yn swatio o dan Cadair Idris eiconig mae swyn Dolgellau. Yn ganolfan wych ar gyfer archwilio golygfeydd Eryri, mae Dolgellau yn cynnig treftadaeth gyfoethog, sin gerddoriaeth fywiog, a mynediad hawdd i lwybrau trawiadol.

15. Canolfan Grefft Corris
Yn hafan greadigol yn Ne Eryri, mae Canolfan Grefftau Corris yn cynnal naw gweithdy, o gerfluniau gwydr a dodrefn pren i gin a siocled. Mae cyfle i wneud gwaith saernïo ac adeiladu dodrefn hefyd, yn ogystal ag anturiaethau tanddaearol cyfagos mewn hen fwyngloddiau llechi. Yna, beth am alw yn y caffi a deli lleol i gael tamed i'w fwyta.

16. Cader Idris
Mae Cader Idris (neu Cadair Idris) yn fynydd rhewlifol mawreddog yn ne Eryri. Yn enwog am deithiau cerdded crib dramatig a llên gwerin ysbrydoledig, archwiliwch olygfa banoramig o'r copa syfrdanol.

17. Nghanolfan Gweilch Dyfi
Mae Canolfan Gweilch Dyfi yn ganolfan bywyd gwyllt yn Nyffryn Dyfi hardd. Mae yno dŵr arsylwi 360', oriel ac ystafell wylio.  Gallwch ddysgu bopeth am weilch Cymru yn y ganolfan unigryw hon.

 

T22 - Blaenau Ffestiniog i Gaernarfon drwy Borthmadog

18. Porthmadog
Mae Porthmadog yn dref harbwr ar Aber Glaslyn. Yn drwm mewn hanes morwrol a threftadaeth rheilffyrdd, mae'n gartref i reilffordd stêm olygfaol. Beth am deithio ar drên Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru ac archwilio'r amgueddfa reilffordd werth chweil.

19. Portmeirion
Yn enwog am ei chwa Eidalaidd unigryw, mae Portmeirion yn bentref ar arfordir Gogledd Cymru. Arhoswch yn y gwesty hardd, ymwelwch â'r castell ac archwilio'r ardal. Mae digon i'w fwynhau, o'r coetir egsotig a'r traethau tywodlyd i siopau, caffis a'r piazza.

 

T3, T3C - Abermaw i Wrecsam

20. Llyn Tegid (Bala Lake)
Dewch i ymweld â llyn naturiol mwyaf Cymru. Mae Llyn Tegid yn berffaith ar gyfer teithiau cerdded golygfaol ar lan y llyn, chwaraeon dŵr a physgota. Gyda chwedlau o "Teggie" yn creu swyn chwedlonol, dyma ddiwrnod allan gwych i'r teulu.

21. Rheilffordd Llyn Tegid
Hyd Rheilffordd Llyn Tegid yw pedair milltir a hanner ar hyd glannau deheuol Llyn Tegid. Gan gynnig golygfeydd godidog o'r llyn a bryniau Eryri, mwynhewch daith awr o hyd ar y trên stêm. Gwyliwch allan am y crëyr glas a'r bwncathod sy'n nythu ger y lein.

22. Traeth a Phromenâd Abermaw
Am ddiwrnod perffaith ar y traeth, ewch i Draeth a Phromenâd. Treuliwch y diwrnod yn torheulo, nofio yn y môr, ac yn chwarae gemau ar y traeth. Ewch am dro hamddenol ar hyd y promenâd i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.

23. Rheilffordd Llangollen
Ewch ar dren Rheilffordd Llangollen i fwynhau golygfeydd godidog o Ddyffryn Dyfrdwy. Ar y llinell stêm dreftadaeth odidog hon, byddwch yn teithio am 10 milltir ar hyd y rheilffordd ac yn gweld pontydd hanesyddol, gorsafoedd a golygfeydd godidog ar hyd ochr yr afon.

24. Clwb Pêl-droed Wrecsam
Croeso i glwb pêl-droed proffesiynol hynaf Cymru gydag awgrym o hud Hollywood. Yn eiddo i Ryan Reynolds a Rob McElhenney, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn enwog ar hyd a lled y byd. Beth am wylio gêm bêl-droed yn y Cae Ras neu ewch ar daith o amgylch y stadiwm a'r ardal leol.

 

T4 - Y Drenewydd i Ferthyr Tudful

25. Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy
Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy  yw'r lle perffaith i fynd am dro. Crwydrwch ar hyd y gamlas i weld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt, o farcutiaid coch i weision y neidr (dragonfly). Beth am deithio ar gwch i archwilio ymhellach y gamlas a threftadaeth leol. Mae sawl caffi sy'n gweinio bwyd blasus ar hyd y gamlas y gallwch fwynhau ar ôl eich taith.

26. Castell Cyfarthfa
Mae Castell Cyfarthfa yn blasty rhestredig Gradd I oedd yn eiddo i haearn feistr. Wedi'i leoli ymhlith 160 erw o barcdir ym Merthyr Tudful, gallwch fwynhau golygfeydd syfrdanol o'r hen waith haearn. O'r amgueddfa a'r rheilffordd fach i'r maes chwarae, mae rhywbeth at ddant pawb. Os hoffech chi damed i'w fwyta, beth am alw yn y caffi ar y safle am baned a theisen?

27. Pen-y-Fan
Dringwch fynydd uchaf De Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi'i amgylchynu gan olygfeydd hardd a golygfeydd trawiadol, mae'n rhaid i chi ymweld â'r copa eiconig hwn. Mae ganddo bedwar llwybr, p'un a ydych yn gerddwr profiadol neu ond yn dechrau arni.

28. Storey Arms
Yng nghanol Bannau Brycheiniog, mae gan Storey Arms ystod o weithgareddau awyr agored ar gael. O gaiacio a gweld ogofau i abseilio, mae'r ganolfan yn cynnig profiad bythgofiadwy.

29. Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
Archwiliwch hanes Normanaidd Aberhonddu yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Priordy oedd gynt yn eglwys gadeiriol, mae'n cynnig man addoli heddychlon, pensaernïaeth drawiadol a chanolfan dreftadaeth yn ei ysgubor hynafol.

 

T5 - Aberystwyth i Hwlffordd

30. Aberaeron
Mae Aberaeron yn bentref arfordirol hardd. Crwydrwch ar hyd yr harbwr lliwgar ac archwiliwch yr amrywiaeth o fwytai sy'n gweini bwyd môr ffres. Ymwelwch â Driftwood Designs i brynu anrheg hyfryd a mwynhau golygfeydd hardd yr harbwr.

31. Castell Aberteifi
Wyddoch chi y cafodd yr Eisteddfod gyntaf un ei chynnal yng Nghastell Aberteifi? Mae'r gaer restredig Gradd I hon, sydd wedi'i hadfer yn hyfryd, yn edrych allan dros Afon Teifi ac mae ganddi 900 mlynedd o hanes. Ochr yn ochr ag ystafelloedd Sioraidd mae gerddi wedi'u tirlunio, canolfan dreftadaeth a llawer mwy - gwiriwch pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill cyn ymweld.

32. Cei Newydd
Mae sawl ffordd i'ch cadw'n ddiddan yng Nghei Newydd. Berth am syrffio neu badlfyrddio ar draeth sydd â statws Baner Las, a chrwydro drwy'r pentref a gwneud tipyn o siopa. Cofiwch alw i'r The Lime Crab enwog - sydd wedi ennill gwobrau - i gael pysgod a sglodion blasus dros ben.

33. Aberporth
A chanddo ddau draeth sydd â statws Baner Las, ewch i Aberporth am ddiwrnod i archwilio pyllau creigiau a gweld dolffiniaid.  Ewch i mewn i'r pentref pysgota a beth am alw i mewn i'r dafarn leol ar ddiwedd eich taith.  

34. Fferm Bargoed
Mae Fferm Bargod arobryn yn cynnig lle i aros sy'n dra gwahanol. Mae yno garafanau, man i wersylla a glampio, a phopeth sydd ei angen arnoch i fwynhau taith gyda'r teulu i'r arfordir. Yno hefyd mae siop fferm, bistro, ysgubor chwarae plant a pharc trampolîn. Mewn dim o amser, bydd yno barc dŵr dan do  ac  yn yr awyr agored.

 

T6 - Aberhonddu i Abertawe

35. Plantasia
Mae Sŵ Drofannol Plantasia yn sw coedwig law go iawn yng nghanol Abertawe. Dyma'r unig le yng Nghymru y gallwch fwydo crocodeil, dyma ffordd wych o dreulio diwrnod glawog yn y goedwig law.

36. Marchnad Dan Do Abertawe
Wyddoch chi y cafodd Marchnad Dan Do Abertawe eu henwi'r Farchnad Dan Do orau ym Mhrydain yn 2024? Gyda dros 100 o stondinau, mae rhywbeth at ddant pawb. Mwynhewch fwyd lleol a rhyngwladol blasus i ginio a chrwydro o amgylch stondinau celf am anrheg neu ddau.

37. Dan-yr-Ogof
Darganfod byd tanddaearol Dan-yr-Ogof. Ynghudd ym Mannau Brycheiniog, archwiliwch ogofâu calchfaen dramatig, rhaeadrau ac ogofâu hynafol. Os nad yw hynny'n ddigon, galwch yn y Parc Dinosoriaid gwefreiddiol.

38. Castell a Pharc Gwledig Craig y Nos
Mae Castell a Pharc Gwledig Craig y Nos yn ystâd Fictoraidd. Mae'n cynnig 40 erw o erddi wedi'u tirlunio, llwybrau coetir a llynnoedd hanesyddol.  Dyma un o drysorau cudd Bannau Brycheiniog. P'un a ydych chi am gael picnic yn yr haf neu fynd ar daith gerdded yn yr hydref, dyma'r lle perffaith i chi.

 

T7 - Cas-gwent i Fryste

39. Cribbs Causeway
Archwiliwch dros 130 o siopau yn Cribbs Causeway. O John Lewis i M&S, mae yna ystod o frandiau a bwytai mawr i chi ddewis ohonynt. Os nad yw siopa yn mynd a'ch bryd, ewch i'r sinema, y llawr sglefrio iâ neu'r lôn fowlio - mae digon o ddewis i chi.

40. Cae Ras Cas-gwent
Dewch i ymweld â chwrs rasio hanesyddol Cas-gwent. Yn adnabyddus am Ras Genedlaethol a rasio gwastad, cynhelir dros 30 o rasys bob blwyddyn gyda Dyffryn Gwy hardd yn gefndir iddo.

41. Harbwr Bryste
Mae Harbwr Bryste lliwgar yn rhan eiconig o'r ddinas. Yn gyrchfan fywiog ar lan y dŵr, mae'r ganolfan ddiwylliannol hon yn gartref i farchnadoedd, amgueddfeydd, bariau a theithiau cychod.

42. Castell Cas-gwent
Wyddoch chi mai Castell Cas-gwent yw'r gaer garreg Normanaidd hynaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain? Yn eistedd ar glogwyn calchfaen uwchben Afon Gwy, gallwch deithio trwy bron i fileniwm o hanes milwrol a phensaernïaeth ganoloesol.

 

T8 - Corwen i Gaer

43. Eglwys Gadeiriol Caer
Ewch i Eglwys Gadeiriol ysblennydd Caer. Gyda thros 1,000 o flynyddoedd o hanes, gallwch ryfeddu at y bensaernïaeth Romanésg a Gothig. Mae'r eglwys gadeiriol yn parhau i fod yn fan y gallwch fynd i addoli ac mae'n cynnig taith o'r twr i weld golygfeydd panoramig o'r ddinas.

44. Parc Gwledig Loggerheads
Ewch am dro trwy goetir hardd a dyffryn afon ym Mharc Gwledig Loggerheads. Archwiliwch hanes y mwyngloddio a mwynhewch y golygfeydd hyfryd ar hyd llwybrau sy'n berffaith i deuluoedd a cherddwyr cŵn eu mwynhau.  Galwch i Gaffi Florence am baned i gyd-fynd â'ch taith gerdded.

45. Waliau Dinas Caer
Crwydrwch ar hyd muriau dinas fwyaf cyflawn Prydain. Mae'r amddiffynfeydd hynafol hyn yn darparu taith gerdded 2 filltir hardd o amgylch Caer, gan gynnig golygfeydd o safleoedd hanesyddol ac Afon Dyfrdwy.

 

T10 - Bangor i Gorwen

46. Betws-y-Coed
Mae Betws-y-Coed yn bentref hardd ger y porth i Eryri yng nghanol coetir ac afonydd. O raeadrau a llwybrau mynydd i anturiaethau awyr agored, mae llawer i'w archwilio. Mae caffis a siopau crefftau Fictoraidd yno y galwch alw ynddynt ar ôl gorffen eich taith.

47. Cwm Idwal
Mae Cwm Idwal yn gylch rhewlifol dramatig yn Eryri sy'n cynnwys llyn, clogwyni uchel a theithiau cerdded golygfaol lefel uchel. Yn dyddio'n ôl i oes yr iâ, mae hwn yn le delfrydol i gerddwyr.

48. Castell Penrhyn
Mae Castell Penrhyn yn gaer ffantasi neo-Normanaidd o'r 19eg ganrif sy'n edrych dros Eryri. Camwch yn ôl mewn amser ac archwiliwch y tu mewn mawreddog, celf gain, ceginau a gerddi hanesyddol. Wedi'i adeiladu gydag arian a wnaed yn gwerthu llechi a siwgr, mae'r castell bellach yn drysor swynol sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

T11 - Abergwaun - Hwlffordd

49. Tyddewi
Darganfyddwch y ddinas leiaf ym Mhrydain. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn sefydliad crefyddol eiconig a dyma'r rheswm dros ei statws fel dinas. Dysgwch am Dewi Sant ac ewch i Balas yr Esgobion i ddarganfod mwy am dreftadaeth leol. Ewch i mewn i un o'r nifer o fwytai annibynnol sydd ynghudd yn yr ardal fach ond fendigedig hon.

50. Traethau'r Wdig
Mae Traethau'r Wdig yn drysor cudd ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae hon yn ganolfan wych i archwilio'r ardal leol, gyda rhai o'r cysylltiadau trafnidiaeth gorau yn Sir Benfro. Ymlwybrwch ar hyd yr harbwr lle gallech weld dolffiniaid neu siarcod. Os hoffech chi deithio ymhellach, o'r porthladd fferi cyfagos, gallwch hwylio i Iwerddon.

 

Gallwch gynllunio eich taith ar hyd rhwydwaith TrawsCymru yma: https://traws.cymru/cy

Cynllunio eich taith yma