Tocyn Rover Powys

Dim ond £9 yw Tocyn Rover Powys i oedolyn a £3* i blentyn (neu berson ifanc sydd â cherdyn fy ngherdyn teithio). Dim ond £18 yw Tocyn Rover Powys i un diwrnod i’r teulu (ar gael ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn NEU ar gyfer 1 oedolyn a hyd at 4 o blant). Mae'n cynnig teithio diderfyn i chi ar wasanaethau bws sy'n cymryd rhan, gan gynnwys ein gwasanaethau T2 (rhwng Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi a Machynlleth), T4 a T6 am y diwrnod cyfan - sy'n golygu y gallwch dorri eich taith pryd bynnag a ble bynnag y dymunwch.

Gwelwch fap tocyn Rover Powys

Tocyn Oedolyn£9
Plentyn/16-21£3*
Tocyn Teulu£18

Yn syml, prynwch y tocyn ar y bws cyntaf y byddwch yn teithio arno neu ar ein ap, a'i ddefnyddio i deithio fel y mynnwch drwy gydol y dydd.

*Cynllun peilot yw hwn o 1 Medi 2025 i  bobl rhwng 16-21, ac o 5 o Dachwedd i blant 5-15 oed.

Tocynnau Crwydro Powys rhanbarthol

Gallwch hefyd brynu tocynnau diwrnod ar gyfer parthau o fewn Powys am £7 i oedolion neu £3 i blant neu bobl ifanc gyda fyngherdynteithio ar y bws neu ar ein ap. 

Y tri pharth:

  • Sir Drefaldwyn a Mwy (Parth y Gogledd)
  • Sir Faesyfed a Mwy (Parth Canol)
  • Sir Frycheiniog a Mwy (Parth y De)