Cwestiynau Cyffredin am brynu tocynnau ar-lein

Gallwch chi brynu tocynnau digidol ar y we i'w defnyddio yn ein ap symudol - mae'n rhwydd ac yn sydyn.

  • Bydd tocynnau yn cael eu danfon yn syth i'w defnyddio yn ein ap symudol
  • Gallwch chi brynu tocynnau i chi'ch hun neu eu rhoi fel rhodd i'ch ffrindiau ac anwyliaid
  • Rydyn ni wedi creu tanysgrifiadau ar gyfer rhai tocynnau penodol sy'n golygu y gallwch chi ddewis adnewyddu eich tocyn yn awtomatig. Bydd hynny'n golygu y bydd gennych chi bob amser docyn i deithio.

Prynu tocynnau ar-lein - Cwestiynau Cyffredin

Cwestiwn: A oes angen cyfrif arnaf er mwyn prynu tocynnau ar y wefan?
Ateb: Na. Gallwch chi brynu tocynnau digidol o'r wefan heb gyfrif. Byddwn yn anfon cod taleb i'ch cyfeiriad e-bost dynodedig a fydd yn eich galluogi i hawlio'ch tocyn. Fodd bynnag, rhaid i chi greu cyfrif a mewngofnodi os ydych chi am brynu tocynnau ar danysgrifiad.

Cwestiwn: A oes angen i fi greu cyfrif newydd i brynu tocynnau ar y wefan?
Ateb: Os oes gennych chi eisoes gyfrif ar gyfer yr ap symudol yna gallwch chi ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a chyfrinair presennol i fewngofnodi i'r wefan.

Cwestiwn: Alla i roi tocyn ar danysgrifiad fel rhodd i ffrind neu aelod o'r teulu?
Ateb: Gallwch. Ar ôl i chi greu cyfrif gallwch chi brynu tocyn ar danysgrifiad a'i roi i ffrindiau neu anwyliaid. Pan fyddwch chi'n prynu tanysgrifiad, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw rhoi ei gyfeiriad e-bost a bydd yn cael cod y taleb drwy e-bost. Yna gall hawlio'r tocyn drwy fynd i'r nodwedd ‘dilysu' yn yr ap symudol.

Cwestiwn: Os ydw i'n prynu tanysgrifiad a yw hynny'n fath o Ddebyd Uniongyrchol?
Ateb: Na, mae hwn yn gytundeb llawer mwy hyblyg. Does dim angen i chi lofnodi unrhyw ffurflenni a gallwch chi ganslo'ch tanysgrifiad yn rhwydd ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i'r wefan a mynd i'ch cyfrif.

Cwestiwn: Beth sy'n digwydd i fy nhocyn presennol pan fydda i'n canslo fy nhanysgrifiad?
Ateb: Pan fyddwch chi'n canslo eich tanysgrifiad fydd dim mwy o daliadau'n cael eu cymryd ac ni fyddwn yn danfon rhagor o docynnau atoch yn awtomatig. Dydy canslo eich tanysgrifiad ddim yn effeithio ar eich tocyn presennol.

Cwestiwn: Rwyf newydd brynu tanysgrifiad am docynnau mewn camgymeriad. Sut rwyf yn canslo fy nhocyn?
Ateb: Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Byddan nhw'n fwy na bodlon eich cynorthwyo.

Cwestiwn: Fydda i'n colli unrhyw beth os na fydda i'n dilysu fy nhocyn ar danysgrifiad ar unwaith?
Answer: Na. Bydd tocyn newydd yn ymddangos yn eich cyfrif cyn bydd eich tocyn presennol yn dod i ben. Does dim rhaid i chi ddilysu'r tocyn newydd hwn hyd nes bod eich tocyn presennol yn dod i ben.

Cwestiwn: Beth sy'n digwydd os bydd fy ngherdyn talu am danysgrifiad yn dod i ben?
Ateb: Mae ein Darparwr Gwasanaethau Talu'n gweithio gyda rhwydweithiau cardiau ac yn ceisio diweddaru manylion cardiau'n awtomatig e.e. disodli cerdyn sydd wedi dod i ben neu gerdyn sydd wedi'i ddwyn/ar goll. Bydd hyn yn eich galluogi i barhau i ddefnyddio ein gwasanaeth heb darfu. Er hynny, byddem yn eich annog i gadw manylion eich cerdyn yn gyfredol drwy fynd i 'Fy nghyfrif'.

Cwestiwn: A yw'n ddiogel i brynu tocynnau ar y wefan?
Ateb: Mae ein Darparwr Gwasanaethau Talu wedi cael ei archwilio gan archwilydd PCI-ardystiedig ac wedi cael achrediad Darparwr Gwasanaeth PCI Lefel 1. Dyma'r lefel uchaf o ardystiad sydd ar gael yn y diwydiant taliadau. I gyflawni hyn, mae ein darparwr yn defnyddio offer diogelwch ac arferion gweithredu o'r radd flaenaf i gynnal lefel uchel o ddiogelwch.

Cwestiwn: Beth sy'n digwydd os na allwch chi gymryd taliad?
Ateb: Yn achos taliad untro, byddwch chi'n cael eich ailgyfeirio i'r cam dull talu wrth y til i roi cynnig ar gerdyn arall. Ar gyfer tanysgrifiadau, byddwn yn rhoi cynnig arni dair gwaith cyn canslo'r tanysgrifiad yn awtomatig.

Cwestiwn: A yw tocynnau tanysgrifiad yn weithredol yn awtomatig?
Ateb: Nac ydynt, nid yw tocynnau'n weithredol yn awtomatig.

Cwestiwn: A allai pris fy nhanysgrifiad newid?
Ateb: Mae prisiau ein tocynnau yn newid o bryd i'w gilydd ac mae hynny'n wir am danysgrifiadau hefyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Byddan nhw'n fwy na bodlon eich cynorthwyo.