Cwestiynau Cyffredin TrawsCymru
🐾 Ydi cŵn yn cael teithio ar fws TrawsCymru?
- Mae cŵn tywys a chŵn cymorth bob amser yn cael eu croesawu.
- Caiff un ci ufudd neu anifail anwes bach deithio gyda chi. Gall y gyrrwr gynghori ar y lle mwyaf addas i’ch anifail eistedd.
- Sylwch: Ni chaniateir cŵn (heblaw cŵn tywys a chymorth) ar wasanaeth T1C.
🚲 Gai fynd â beic ar y bws?
- Caniateir beic sy’n plygu os gellir ei storio’n ddiogel ar y silff bagiau. Ar gyfnodau prysur, mae’n bosibl na fydd digon o le ar y bws i’w derbyn.
- Ni chaniateir beic safonol (sydd ddim yn plygu) oherwydd ystyriaeth am ddiogelwch a chyfyngiadau mewn gofod sydd ar gael.
📲 Ble allai ddod o hyd i ddiweddariadau am fy ngwasanaeth bws?
- Dewiswch eich hoff lwybrau ar ap TrawsCymru i dderbyn hysbysiadau yn syth i’ch ffôn am newidiadau neu amhariad i’r gwasanaeth.
- Gallwch hefyd ddod o hyd i ddiweddariadau ar ein gwefan.
♿ Pa gyfleusterau sydd ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, sgwteri modur a theithwyr gyda bygis?
- Mae ein bysiau yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o gadeiriau olwyn a bygis.
- Petai angen gwneud lle i ddefnyddiwr cadair olwyn, bydd angen plygu’r bygi a’i storio’n ddiogel ar y silff bagiau.
- Mae angen caniatâd penodol gan y gweithredwr cyn y caniateir cludo sgwter modur ar fws TrawsCymru. Am ragor o fanylion, anfonwch neges at: [email protected].
💸 Rwy’n teithio’n rheolaidd gyda TrawsCymru - a allaf arbed arian?
- Wrth gwrs! Mae amrywiaeth o docynnau aml-daith a phecynnau ar gael ar ap a gwefan TrawsCymru.
🎟️ Mae gen i Gerdyn Teithio Rhatach Cymru - allai ei ddefnyddio ar fws TrawsCymru?
- Wrth gwrs! Mae eich Cerdyn Teithio Rhatach Cymru yn ddilys ar bob gwasanaeth TrawsCymru.
📝 Sut alla i wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru?
- Gallwch wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru i rywun 60 a throsodd neu i Berson Anabl yma.
👶 Pa oedran mae angen i blant dalu?
- Caiff plant o dan 5 oed deithio am ddim.
- Mae plant 5 - 15 oed yn gymwys am brisiau gostyngol:
- £1 am daith sengl.
- £3 am docyn dydd (teithio diderfyn ar wasanaethau sy’n rhan o’r cynllun).
🧑 Rwy’n 16 - 21 oed a allaf arbed arian?
- Wrth gwrs! Gyda fyngherdynteithio dilys, gall pobl ifanc 16 - 21 oed fwynhau:
- £1 am daith sengl.
- £3 am docyn dydd (teithio diderfyn ar wasanaethau sy’n rhan o’r cynllun).
- Oddeutu 1/3 oddi ar brisiau oedolion ar docynnau wythnosol a 4 wythnos.
- I brynu tocynnau ar y bws, dangoswch eich fyngherdynteithio i’r gyrrwr.
- I brynu tocynnau ar yr ap, bydd angen i chi ddilysu eich fyngherdynteithio yn gyntaf (cliciwch yma am ragor o wybodaeth).
📞 Sut alla i gysylltu gyda TrawsCymru?
Rydym wrth ein bodd yn clywed gennych - dyma sut i gysylltu:
- Ffôn: Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog ar 03002 002 233 (llinell leol). Mae’r llinellau ar agor 07:00 - 20:00 bob dydd, gyda gwasanaeth cyfyngedig dros wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
- E-bost: Anfonwch neges atom yn [email protected].