Prynu tocynnau ar y bws ac ar-lein

A person buying a ticket on the bus

Ar y bws

Cewch dalu ar y bws gyda cherdyn / dyfais ddigyswllt neu arian parod.

Mae tocynnau sengl ar gyfer llwybrau TrawsCymru T1, T1A, T1C*, T1X, T2, T3, T3C, T4, T5, T6, T10 a T22 yn seiliedig ar bellter, ac yn dechrau o £1.50. Mae'r pris yn amrywio gyda hyd y daith ac yn cael ei gapio ar £4.00. Gall teithwyr hefyd ddefnyddio Tap Ymlaen, Tap Ymadael - tapiwch eich cerdyn neu ddyfais wrth fynd ar y bws ac eto wrth ddod oddi arno, a chyfrifir y pris sengl oedolyn rhwng y ddau bwynt a bydd y daith yn cyfrif tuag at eich cap dyddiol ac wythnosol.

*Mae’r tocynnau yma ar gael rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ar y T1C y unig. Pris yr holl lwybr yw £15.

MilltiroeddPris tocyn sengl (oedolyn)
0 - 1.999£1.50
2 - 2.999£1.60
3 - 5.999£1.90
6 - 8.999£2.20
9 - 11.999£2.50
12 - 14.999£2.80
15 - 17.999£3.10
18 - 20.999£3.40
21 - 23.999£3.70
24 - 26.999£4.00

Gall pobl rhwng 5 - 21 oed** brynu tocyn sengl am £1 a thocyn dydd am £3 ar bob gwasanaeth TrawsCymru.

Teithio’n fwy aml? Archwiliwch ein rhestr o docynnau dydd, aml-daith a phecynnau - perffaith os ydych yn teithio'n rheolaidd neu angen hyblygrwydd i'ch taith.

 

Ble i brynu tocynnau

  • Tocynnau sengl: Ar gael ar y bws yn unig
  • Tocynnau aml-daith a phecynnau: Ar gael ar y bws neu fel tocynnau digidol ar ap TrawsCymru
  • Gall pobl rhwng 5 - 21 oed** brynu tocyn sengl am £1 a thocyn dydd am £3 ar bob gwasanaeth TrawsCymru. Ar gael ar y bws neu mewn pecynnau o docynnau digidol drwy ap TrawsCymru. Eithriadau’n berthnasol.

**bydd angen fyngherdynteithio ar bobl rhwng 16 - 21 oed. Gwnewch gais am eich fyngherdynteithio heddiw yn mytravelpass.tfw.wales/cy