Terms and conditions
[TRAWS CYMRU]
[[email protected]]
[HTTPS://TRAWS.CYMRU]
[3 LLYS CADWYN, PONTYPRIDD, CF37 4TH]
[09476013]
[https://trc.cymru/datganiad-preifatrwydd]
Mae’r cytundeb trwyddedu i ddefnyddwyr hwn yn gytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a [TRAFNIDIAETH CYMRU], cwmni cyfyngedig sydd wedi’i leoli a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni [09476013] y mae ei swyddfa gofrestredig yn [TRAWSCYMRU.INFO] (ni neu ein) ar gyfer:
meddalwedd ap [TRAWS Cymru], y data sy’n cael ei ddarparu gyda’r meddalwedd, a’r cyfryngau cysylltiedig (Ap).
Rydym yn trwyddedu defnydd o’r Ap i chi ar sail y cytundeb hwn ac yn amodol ar unrhyw reolau neu bolisïau sy’n cael eu defnyddio gan unrhyw ddarparwr neu weithredwr safle (App Store) y gwnaethoch lwytho’r Ap i lawr ohono. Nid ydym yn gwerthu’r Ap i chi. Rydym yn parhau i fod yn berchen ar yr Ap bob amser.
HYSBYSIAD PWYSIG:
DRWY GLICIO “CYTUNO” RYDYCH CHI’N CYTUNO I DELERAU’R DRWYDDED Y BYDDWCH YN RHWYM WRTHYNT. MAE TELERAU’R DRWYDDED YN CYNNWYS, YN BENODOL, Y POLISI PREIFATRWYDD A DDIFFINNIR YN AMOD 1.5 A'R CYFYNGIADAU AR ATEBOLRWYDD YN AMOD 7.
OS NAD YDYCH CHI’N CYTUNO I DELERAU’R DRWYDDED HON, NI FYDDWN YN TRWYDDEDU’R AP I CHI A DYLECH DDAD-OSOD YR AP AR UNWAITH.
1. Cydnabyddiaeth
1.1 Mae telerau’r Cytundeb hwn yn berthnasol i’r Ap neu unrhyw rai o’r gwasanaethau sydd ar gael drwy’r Ap (Gwasanaethau), gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau neu atodiadau i’r Ap neu unrhyw Wasanaeth, oni bai eu bod yn dod gyda thelerau ar wahân, ac os felly, mae’r telerau hynny’n berthnasol. Os bydd unrhyw feddalwedd ffynhonnell agored yn cael ei gynnwys yn yr Ap neu unrhyw Wasanaeth, mae telerau trwydded ffynhonnell agored yn gallu disodli rhai o delerau’r Cytundeb hwn.
1.2 Gallwn newid y telerau hyn unrhyw bryd drwy anfon e-bost atoch gyda manylion y newid neu roi gwybod i chi am newid pan fyddwch yn agor yr Ap nesaf. Mae’n bosib y bydd y telerau newydd yn cael eu dangos ar y sgrin ac efallai y bydd angen i chi eu darllen a’u derbyn er mwyn parhau i ddefnyddio’r Gwasanaethau.
1.3 O bryd i’w gilydd, mae’n bosib y bydd diweddariadau i’r Ap yn cael eu cyhoeddi drwy’r App Store. Yn dibynnu ar y diweddariad, efallai na fyddwch chi’n gallu defnyddio’r Gwasanaethau nes i chi lwytho’r fersiwn diweddaraf o’r Ap i lawr a derbyn unrhyw delerau newydd. Rhaid i chi dderbyn diweddariadau os ydych chi am barhau i ddefnyddio’r Ap. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn methu â diweddaru’r Ap.
1.4 Tybir eich bod wedi cael caniatâd gan berchnogion y ffôn symudol neu'r dyfeisiau rydych chi’n eu rheoli, ond nad ydych chi’n berchen arnynt, ac a ddisgrifir yn amod 2.2(a) (Dyfeisiau) ac i lwytho copi o’r Ap ar y Dyfeisiau. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw a chithau dalu eich darparwyr gwasanaeth am fynediad i’r rhyngrwyd ar y Dyfeisiau (yn cynnwys costau crwydro). Rydych chi’n derbyn cyfrifoldeb yn unol â thelerau’r cytundeb hwn am ddefnyddio'r Ap neu unrhyw Wasanaeth ar unrhyw Ddyfais neu mewn perthynas â hi, p’un a ydych chi’n berchen arni ai peidio. Os nad chi sy’n talu’r bil ar gyfer y ddyfais rydych chi’n defnyddio’r ap arni, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd gan y sawl sy’n talu’r bil. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau na ffioedd trydydd parti.
1.5 O bryd i’w gilydd, mae telerau ein polisi, sydd ar gael yn [https://trc.cymru/datganiad-preifatrwydd] (Polisi Preifatrwydd), wedi’u hymgorffori yn y Cytundeb hwn drwy gyfeirio atynt. Hefyd, drwy ddefnyddio’r Ap neu unrhyw Wasanaeth, rydych chi’n cydnabod ac yn cytuno nad yw gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo ar y rhyngrwyd byth yn gwbl breifat nac yn ddiogel. Rydych chi’n deall y gall pobl eraill ddarllen neu ryng-gipio unrhyw neges neu wybodaeth rydych chi’n ei hanfon gan ddefnyddio’r Ap neu unrhyw Wasanaeth, hyd yn oed os oes rhybudd arbennig bod yr wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo wedi’i hamgryptio.
1.6 Drwy ddefnyddio’r Ap neu unrhyw un o’r Gwasanaethau, rydych chi’n caniatáu i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth dechnegol am y Dyfeisiau a meddalwedd, caledwedd a pherifferolion cysylltiedig ar gyfer Gwasanaethau sy’n defnyddio’r rhyngrwyd neu’n ddi-wifr i wella ein cynnyrch ac i ddarparu unrhyw Wasanaethau i chi.
1.7 Mae rhai Gwasanaethau’n defnyddio data lleoliad a anfonir o’r Dyfeisiau. Gallwch ddiffodd y swyddogaeth hon unrhyw bryd drwy ddiffodd gosodiadau gwasanaethau lleoliad yr Ap ar y Ddyfais. Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaethau hyn, rydych chi’n rhoi caniatâd i ni, ein cwmnïau cysylltiedig a’n trwyddedeion drosglwyddo, casglu, cadw, cynnal, prosesu a defnyddio data am eich lleoliad a’ch ymholiadau i ddarparu a gwella cynnyrch a gwasanaethau sy’n seiliedig ar leoliad a thraffig ffyrdd. Gallwch dynnu’r caniatâd hwn yn ôl unrhyw bryd drwy ddiffodd y gosodiadau gwasanaethau lleoliad ar eich Dyfais.
2. Dyfarnu a chwmpas y drwydded
2.1 Wrth ystyried eich bod yn cytuno i gadw at delerau’r Cytundeb hwn, rydym yn rhoi trwydded anghyfyngedig, anhrosglwyddadwy i chi ddefnyddio’r Ap ar Ddyfeisiau, yn amodol ar y telerau hyn, y Polisi Preifatrwydd a Rheolau’r App Store y mae’r Cytundeb hwn yn cyfeirio atynt. Rydym yn cadw pob hawl arall.
2.2 Gallwch:
a. llwytho’r Ap i lawr ar eich dyfais a gweld, defnyddio a dangos yr Ap ar y Dyfeisiau at eich dibenion personol yn unig;
3. Cyfyngiadau'r drwydded
Ac eithrio fel y nodir yn benodol yn y Cytundeb hwn neu fel y caniateir gan unrhyw gyfraith leol, rydych chi’n cytuno i'r canlynol:
a. peidio â chopïo’r Ap ac eithrio lle mae copïo o’r fath yn gysylltiedig â defnydd arferol o’r ap, neu lle mae’n angenrheidiol at ddibenion gwneud copi wrth gefn neu ddiogelwch gweithredol;
b. peidio â rhentu, prydlesu, is-drwyddedu, benthyca, cyfieithu, cyfuno, addasu neu newid yr Ap;
c. peidio â gwneud newidiadau, neu addasiadau, i’r cyfan neu unrhyw ran o’r Ap, na chaniatáu i’r Ap neu unrhyw ran ohono gael ei gyfuno ag unrhyw raglenni eraill, na dod yn rhan ohonynt;
d. peidio â dadosod, dadgrynhoi, gwrth-beiriannu na chreu gweithiau yn seiliedig ar yr Ap cyfan, neu ran ohono, neu geisio gwneud unrhyw beth o'r fath (yn rhinwedd adran 296A o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988);
e. cadw pob copi o’r Ap yn ddiogel;
f. cydymffurfio â’r holl ddeddfau a rheoliadau rheoli ac allforio technoleg sy’n berthnasol i’r dechnoleg a ddefnyddir neu a gefnogir gan yr Ap neu unrhyw Wasanaeth (Technoleg), yn ogystal â Chyfyngiadau’r Drwydded.
4. Defnyddio’r Ap
4.1 Chi sy’n gyfrifol am gynnal cyfrinachedd a diogelwch manylion eich cyfrif a’ch cyfrinair ar gyfer yr Ap, ac rydych chi’n gwbl gyfrifol am unrhyw weithgaredd sy’n digwydd yn eich cyfrif o dan eich cyfrinair, oni bai fod y gweithgareddau hyn yn deillio o’n hesgeulustod neu ein bod ni wedi torri’r telerau hyn yn sylweddol. Ni allwn gynnig cymorth technegol a thrwy gytuno i’r telerau hyn, rydych chi’n cadarnhau bod gennych fynediad at ffôn symudol gyda manyleb addas i dderbyn ac arddangos yr Ap, a’ch bod yn gallu ei ddefnyddio. Ar ôl llwytho’r Ap i lawr, byddwch yn gallu prynu tocynnau symudol gan ddefnyddio’r Ap ar eich ffôn symudol. Mae’r Ap ar gael ar ffonau symudol iOS ac Android.
4.2 Rydym yn asiant i’r gweithredwyr bysiau (y gweithredwyr), ac nid ydym yn rhedeg unrhyw rai o’r gwasanaethau yr ydym yn gwerthu tocynnau ar eu cyfer ein hunain. Rydym ond yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth archebu tocynnau symudol, nid am ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth a fydd yn amodol ar amodau cludiant y gweithredwyr unigol (gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau penodol sy’n berthnasol i’r tocyn symudol rydym wedi’i werthu i chi ar eu rhan) a fydd yn berthnasol i chi yn ogystal â’r Cytundeb hwn.
4.2 Mae’n bwysig eich bod yn gwirio bod manylion eich tocyn symudol yn gywir cyn prynu ar eich ffôn symudol. Er y gofynnir i chi wirio manylion cyn gwneud y pryniant, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau mai’r pryniant hwn sydd ei angen arnoch. Ar ôl prynu tocyn, ni ellir ei newid a rhoddir unrhyw ad-daliad yn ôl ein disgresiwn. Bydd angen dilysu eich tocynnau cyn eu defnyddio a bydd angen cysylltiad â’r rhyngrwyd arnoch i’w prynu a’u dilysu. Ar ôl cwblhau’r pryniant, mae gennych 12 mis i ddilysu eich tocyn. Rhaid dangos eich tocyn symudol yn glir ar sgrin eich ffôn symudol ac yn ddigon hir i’r gyrrwr edrych ar y dyddiad a’r cod, a rhaid ei ddangos os bydd unrhyw un o swyddogion y gweithredwr yn gofyn amdano ar unrhyw adeg.
4.3 Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych chi docyn symudol dilys a’i fod yn cael ei roi ar waith cyn teithio. Bydd methu â dangos tocyn symudol dilys yn golygu bod gan y gweithredwr hawl i fynnu eich bod yn talu’r pris priodol mewn arian parod neu ddull arall o dalu a dderbynnir wrth fynd ar y trên. Ni fydd yn rhaid i ni nac unrhyw weithredwr ddarparu unrhyw ad-daliad os na fyddwch yn cyflwyno tocyn symudol dilys.
4.4. Dim ond ar gyfer y cyfnod a ddewisir yn y man gwerthu y mae eich tocyn symudol yn ddilys, a bydd yn cael ei ddangos yn glir ar eich ffôn. Bydd y cyfnod dilysrwydd yn cyfrif i lawr ar ôl ei roi ar waith. Bydd gan weithredwyr hawl i wrthod unrhyw docyn symudol y maent yn credu’n rhesymol ei fod yn annilys, wedi dyddio, wedi’i ganslo neu ar ffôn symudol sydd wedi’i ddwyn.
4.5 Nid oes modd trosglwyddo tocynnau symudol i deithwyr eraill. Bydd tocynnau symudol yn cael eu trosglwyddo i ddyfais newydd ar ôl i chi fewngofnodi iddi. Bydd mewngofnodi ar ddyfais newydd yn eich allgofnodi o unrhyw ddyfeisiau eraill. Dim ond ar un ddyfais ar y tro y gellir defnyddio tocynnau symudol, ond gellir eu hactifadu a’u trosglwyddo wedyn.
4.6 Bydd angen cysylltiad â'r rhyngrwyd arnoch i ddiweddaru a dilysu eich tocynnau symudol gweithredol yn rheolaidd.
4.7 Mae’n bosibl y bydd angen i staff afael eich ffôn symudol i wirio eich tocyn. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddifrod sy’n deillio o staff y cwmni’n gafael eich ffôn symudol.
4.8 Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod batri digonol yn eich dyfais. Os yw’n rhedeg allan o fatri ac na allwch ei droi ymlaen am ddigon o amser i ddangos eich tocyn symudol, ni allwn fod yn gyfrifol am hynny ac ni fyddwn yn cynnig unrhyw ad-daliad os na allwch chi deithio ar wasanaethau’r gweithredwr perthnasol gan ddefnyddio eich tocyn symudol.
4.9 Ni allwn warantu bod yr holl fathau o docynnau rydych chi’n dymuno eu prynu ar gael drwy’r Ap a dylech edrych ar ein gwefan [https://traws.cymru/cy] i sicrhau bod y dull teithio sydd ei angen arnoch ar gyfer eich taith ar gael. Rydym yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y data ar y wefan yn gywir. Ar ôl cael gwybod am unrhyw wallau neu hepgoriadau, byddwn yn gwneud ein gorau i’w cywiro’n brydlon. Efallai nad yw'r wefan hon yn gydnaws â'ch ffôn symudol neu ffurfweddiad eich cyfrifiadur. Nid ydym yn gwarantu y bydd eich mynediad i’n gwefan yn ddi-dor ac ni fyddwn yn gyfrifol os na allwn ddarparu’r wefan am unrhyw reswm.
4.10 Ad-daliadau: Ac eithrio pan fydd eich ffôn symudol wedi cael ei ddwyn a’ch bod yn gallu rhoi Rhif Troseddau’r Heddlu a phrawf o’ch pryniant i ni, ni fyddwn yn rhoi ad-daliad am docynnau a brynwyd gan ddefnyddio’r Ap mewn unrhyw amgylchiadau eraill. Os byddwch yn colli eich ffôn symudol, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw docynnau symudol nad ydynt yn cael eu defnyddio.
4.11 Rydym yn cadw’r hawl i ganslo neu atal eich cyfrif heb rybudd neu atebolrwydd os ydym yn credu’n rhesymol bod unrhyw docynnau symudol wedi’u derbyn mewn modd twyllodrus. Os na fyddwch yn cydymffurfio ag amodau cludiant unrhyw weithredwr, efallai y byddwn hefyd yn gwrthod cyflenwi rhagor o docynnau symudol.
4.12 Ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros rai swyddogaethau sy’n galw am gysylltiad rhyngrwyd gweithredol gyda chryfder signal digonol a gallu i ddelio â data. Gall y cysylltiad fod yn WiFi neu gael ei ddarparu gan ddarparwr eich rhwydwaith, ond ni allwn gymryd cyfrifoldeb pan na fydd yr Ap yn gweithio, os nad ydych chi wedi prynu a dilysu eich tocyn neu os yw eich lwfans data wedi dod i ben.
4.13 Os ydych chi’n defnyddio’r Ap y tu allan i ardal sydd â WiFi, dylech gofio y bydd telerau’r cytundeb gyda’ch darparwr rhwydwaith symudol yn berthnasol o hyd. O ganlyniad, efallai y bydd eich darparwr symudol yn codi tâl arnoch am gost y data i gysylltu wrth ddefnyddio’r Ap i ddilysu neu brynu, neu ffioedd trydydd parti eraill.
4.14 Nid ydym yn storio eich cerdyn credyd/debyd na’ch manylion banc ar ein gweinyddion nac yn yr Ap, ac rydym yn cytuno y byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn gyfreithlon, yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y GE) 2003 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y GE) (Diwygio) 2011. Ar gyfer eich rhan chi, rydych chi’n cadarnhau mai dim ond gwybodaeth amdanoch chi y byddwch chi’n ei rhoi a bod gwybodaeth o’r fath yn wir. Dim ond at ddibenion gweithredol y defnyddir y manylion y byddwch yn eu rhoi amdanoch eich hun ac unrhyw wybodaeth arall sy’n eich adnabod, er enghraifft, i gysylltu â chi i gael adborth ar y dechnoleg newydd hon, oni bai eich bod wedi cytuno i optio mewn i negeseuon marchnata. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu trosglwyddo i bartïon eraill.
4.15 Mae gennych hefyd hawliau cyfreithiol penodol o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Ffioedd Ychwanegol) 2013 a Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Os na fyddwn yn cydymffurfio â’r cyfreithiau hyn, mae gennych rai rhwymedïau ac nid yw’r telerau ac amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau, eich rhwymedigaethau na’ch rhwymedïau o dan y cyfreithiau hynny a fydd yn cael blaenoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’r Adran Safonau Masnach neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
5. Cyfyngiadau defnydd derbyniol
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
a. defnyddio’r Ap nac unrhyw Wasanaeth mewn unrhyw ffordd anghyfreithlon, at unrhyw ddiben anghyfreithlon, neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyson â’r cytundeb hwn, na gweithredu’n dwyllodrus neu’n faleisus, er enghraifft, drwy hacio i mewn neu fewnosod cod maleisus, gan gynnwys firysau neu ddata niweidiol, yn yr Ap, mewn unrhyw Wasanaeth neu ar unrhyw system weithredu;
b. torri ein hawliau eiddo deallusol neu hawliau unrhyw drydydd parti mewn perthynas â’ch defnydd o’r Ap neu unrhyw Wasanaeth, gan gynnwys cyflwyno unrhyw ddeunydd (i’r graddau nad yw defnydd o’r fath yn cael ei drwyddedu gan y Cytundeb hwn);
c. darlledu unrhyw ddeunydd sy’n ddifrïol, yn dramgwyddus neu’n annymunol fel arall mewn perthynas â’ch defnydd o’r Ap neu unrhyw Wasanaeth;
d. defnyddio’r Ap nac unrhyw Wasanaeth mewn ffordd a allai niweidio, analluogi, gorlwytho, amharu neu beryglu ein systemau neu ein diogelwch neu ymyrryd â defnyddwyr eraill; a
e. casglu unrhyw wybodaeth neu ddata o unrhyw Wasanaeth neu ein systemau na cheisio dehongli unrhyw drosglwyddiadau i’r gweinyddion sy’n rhedeg unrhyw Wasanaeth neu oddi wrthynt.
6. Hawliau eiddo deallusol
6.1 Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol yn yr Ap a’r Dechnoleg unrhyw le yn y byd yn perthyn i ni neu ein trwyddedwyr, bod hawliau yn yr Ap yn cael eu trwyddedu (nid eu gwerthu) i chi, ac nad oes gennych chi hawliau yn yr Ap na’r Dechnoleg nac iddynt ac eithrio’r hawl i’w defnyddio yn unol â thelerau’r Cytundeb hwn.
6.2 Rydych chi’n cydnabod nad oes gennych chi hawl i gael mynediad i’r Ap ar ffurf cod ffynhonnell.
7. Cyfyngu ar atebolrwydd
7.1 Rydych chi’n cydnabod nad yw’r Ap wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu eich gofynion unigol chi, ac felly chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod cyfleusterau a swyddogaethau’r Ap yn diwallu eich gofynion.
7.2 Dim ond at ddefnydd domestig a phreifat y byddwn yn cyflenwi’r Ap. Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r Ap at unrhyw ddibenion masnachol, busnes nac ailwerthu, ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi am unrhyw golli elw, colli busnes, amhariad ar fusnes neu golli cyfle busnes.
7.3 Rydym yn gweithredu fel asiant ar ran y gweithredwyr. Nid ydym yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth, ac nid ydym ond yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth archebu tocynnau drwy’r Ap. Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd darparu gwasanaethau trafnidiaeth yn ddarostyngedig i amodau cludiant y gweithredwr perthnasol a bydd unrhyw atebolrwydd sy'n ymwneud â darparu, neu fethu â darparu, gwasanaethau o’r fath yn cael ei reoli gan amodau cludiant o’r fath a fydd yn ffurfio contract rhyngoch chi a'r gweithredwr hwnnw.
7.4 Rydym ond yn gyfrifol am golled neu ddifrod rydych chi’n ei ddioddef sy’n ganlyniad rhagweladwy o dorri’r Cytundeb hwn neu ein hesgeulustod hyd at y terfyn a nodir yn amod 7.4, ond nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod nad oes modd ei ragweld. Mae modd rhagweld y golled neu’r difrod os yw’n ganlyniad amlwg o’n toriad neu os oedd yn cael ei ystyried gennych chi a ni ar yr adeg y rhoesom y Cytundeb i chi.
7.5 Bydd ein rhwymedigaeth gyfanredol dan neu mewn cysylltiad â’r Cytundeb hwn (gan gynnwys eich defnydd o unrhyw Wasanaethau) boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, wedi’i gyfyngu o dan bob amgylchiad i werth y tocynnau rydych chi wedi’u prynu nad ydynt wedi dod i ben eto. Nid yw hyn yn berthnasol i’r mathau o golled a nodir yn amod 7.6.
7.6 Ni fydd dim yn y Cytundeb hwn yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd nac yn ei eithrio yng nghyswllt:
a. marwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod;
b. twyll neu gamliwio twyllodrus; ac
c. unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
8. Terfynu
8.1 Cawn derfynu’r Cytundeb hwn ar unwaith drwy roi rhybudd ysgrifenedig i chi:
a. os byddwch yn torri’r Contract hwn yn sylweddol neu’n barhaus ac nad ydych yn ei gywiro (os gellir ei gywiro) o fewn 14 diwrnod i gyflwyno rhybudd ysgrifenedig sy’n gofyn i chi wneud hyn;
b. os byddwch yn torri unrhyw un o Gyfyngiadau’r Drwydded neu’r Cyfyngiadau Defnydd Derbyniol.
8.2 Wrth derfynu, am unrhyw reswm:
a. byddwn yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio unrhyw gredyd sy’n weddill drwy gyfrwng math newydd o docyn;
b. bydd yr holl hawliau a roddir i chi dan y Contract hwn yn dod i ben;
c. rhaid i chi roi’r gorau i’r holl weithgareddau a awdurdodir gan y Cytundeb hwn ar unwaith, gan gynnwys eich defnydd o unrhyw Wasanaethau;
d. rhaid i chi ddileu neu dynnu’r Ap o bob dyfais ar unwaith, a dinistrio pob copi o’r Ap yn eich meddiant, eich gwarchodaeth neu’ch rheolaeth ar unwaith ac ardystio i ni eich bod wedi gwneud hynny.
9. Cyfathrebu
9.1 Os hoffech gysylltu â ni’n ysgrifenedig, neu os oes unrhyw amod yn y Cytundeb hwn yn mynnu eich bod yn rhoi gwybod i ni’n ysgrifenedig, gallwch anfon hwn atom drwy anfon e-bost i [[email protected]]. Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi ei dderbyn drwy gysylltu â chi yn ysgrifenedig dros e-bost.
9.2 Os bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi neu roi rhybudd ysgrifenedig i chi, byddwn yn gwneud hynny drwy e-bost neu drwy’r post wedi’i dalu ymlaen llaw i’r cyfeiriad rydych chi’n ei roi i ni yn eich cais am yr Ap.
10. Digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth
10.1 Ni fyddwn yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gyflawni, neu oedi wrth gyflawni, unrhyw un o’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn sy’n cael ei achosi gan unrhyw weithred neu ddigwyddiad y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gan gynnwys methiant rhwydweithiau telegyfathrebu cyhoeddus neu breifat (Digwyddiad y Tu Allan i’n Rheolaeth).
10.2 Os bydd Digwyddiad y Tu Allan i’n Rheolaeth sy’n effeithio ar ein rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn:
a. bydd ein rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn yn cael eu hatal a bydd yr amser ar gyfer cyflawni ein rhwymedigaethau yn cael ei ymestyn dros gyfnod y Digwyddiad y Tu Allan i’n Rheolaeth; a
b. byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i ateb y gellir ei ddefnyddio i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, er gwaethaf y Digwyddiad y Tu Allan i’n Rheolaeth.
11. Telerau pwysig eraill
11.1 Gallwn drosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn i sefydliad arall, ond ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau na’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn.
11.2 Dim ond os byddwn yn cytuno’n ysgrifenedig y cewch drosglwyddo eich hawliau neu’ch rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn i berson arall.
11.3 Os na fyddwn yn mynnu eich bod yn cyflawni unrhyw rai o’ch rhwymedigaethau dan y Cytundeb hwn, neu os na fyddwn yn gorfodi ein hawliau yn eich erbyn, neu os byddwn yn oedi cyn gwneud hynny, ni fydd hynny’n golygu ein bod wedi hepgor ein hawliau yn eich erbyn ac ni fydd yn golygu na fydd yn rhaid i chi gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny. Os byddwn yn ildio diffyg gennych chi, byddwn yn gwneud hynny’n ysgrifenedig yn unig, ac ni fydd hynny’n golygu y byddwn yn ildio unrhyw ddiffyg diweddarach gennych chi’n awtomatig.
11.4 Mae pob un o amodau’r Cytundeb hwn yn gweithredu ar wahân. Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys yn penderfynu bod unrhyw un ohonynt yn anghyfreithlon neu nad oes modd eu gorfodi, bydd gweddill yr amodau yn aros mewn grym llawn.
11.5 Sylwch fod y Cytundeb hwn, ei bwnc a’i ffurf, yn cael ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Rydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan Lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth egsgliwsif.
[TRANSPORT FOR WALES]
[TRAWS CYMRU]
[[email protected]]
[HTTPS://TRAWS.CYMRU]
[3 LLYS CADWYN, PONTYPRIDD, CF37 4TH]
[09476013]
[https://tfw.wales/website-privacy-statement]
This end-user licence agreement (EULA) is a legal agreement between you (you or your) and [TRANSPORT FOR WALES] a limited company incorporated and registered in England & Wales with company number [09476013] whose registered office is situated at [TRAWSCYMRU.INFO] (us, our or we) for:
[TRAWS CYMRU] mobile application software, the data supplied with the software, and the associated media (App).
We license use of the App to you on the basis of this EULA and subject to any rules or policies applied by any App Store provider or operator from whose site (App Store), you downloaded the App (App Store Rules). We do not sell the App to you. We remain the owners of the App at all times.
IMPORTANT NOTICE:
BY CLICKING "ACCEPT" YOU AGREE TO THE TERMS OF THE LICENCE WHICH WILL BIND YOU. THE TERMS OF THE LICENCE INCLUDE, IN PARTICULAR, THE PRIVACY POLICY DEFINED IN CONDITION 1.5 AND LIMITATIONS ON LIABILITY IN CONDITION 7.
IF YOU DO NOT AGREE TO THE TERMS OF THIS LICENCE, WE WILL NOT LICENSE THE APP TO YOU AND YOU SHOULD UNINSTALL THE APP WITH IMMEDIATE EFFECT.
1. Acknowledgements
1.1 The terms of this EULA apply to the App or any of the services accessible through the App (Services), including any updates or supplements to the App or any Service, unless they come with separate terms, in which case those terms apply. If any open-source software is included in the App or any Service, the terms of an open-source licence may override some of the terms of this EULA.
1.2 We may change these terms at any time by sending you an email with details of the change or notifying you of a change when you next start the App. The new terms may be displayed on-screen and you may be required to read and accept them to continue your use of the Services.
1.3 From time to time updates to the App may be issued through the App Store. Depending on the update, you may not be able to use the Services until you have downloaded the latest version of the App and accepted any new terms. You must accept updates if you wish to continue using the App. [We accept no liability in the event that you fail to keep the App updated.
1.4 You will be assumed to have obtained permission from the owners of the mobile telephone or handheld devices that are controlled, but not owned, by you and described in condition 2.2(a) (Devices) and to download a copy of the App onto the Devices. You and they may be charged (including roaming charges) by your and their service providers for internet access on the Devices. You accept responsibility in accordance with the terms of this EULA for the use of the App or any Service on or in relation to any Device, whether or not it is owned by you. If you are not the bill payer for the device on which you’re using the app, please ensure that you have received permission from the bill payer. For the avoidance of doubt we will not be responsible for any third party costs or charges.
1.5 The terms of our privacy policy from time to time, available at [https://tfw.wales/website-privacy-statement] (Privacy Policy) are incorporated into this EULA by reference. Additionally, by using the App or any Service, you acknowledge and agree that internet transmissions are never completely private or secure. You understand that any message or information you send using the App or any Service may be read or intercepted by others, even if there is a special notice that a particular transmission is encrypted.
1.6 By using the App or any of the Services, you consent to us collecting and using technical information about the Devices and related software, hardware and peripherals for Services that are internet-based or wireless to improve our products and to provide any Services to you.
1.7 Certain Services make use of location data sent from the Devices. You can turn off this functionality at any time by turning off the location services settings for the App on the Device. If you use these Services, you consent to us and our affiliates' and licensees' transmission, collection, retention, maintenance, processing and use of your location data and queries to provide and improve location-based and road traffic-based products and services. You may withdraw this consent at any time by turning off the location services settings on your Device.
2. Grant and scope of licence
2.1 In consideration of you agreeing to abide by the terms of this EULA, we grant you a non-transferable, non-exclusive licence to use the App on the Devices, subject to these terms, the Privacy Policy and the App Store Rules, incorporated into this EULA by reference. We reserve all other rights.
2.2 You may:
a. download the App onto your device and view, use and display the App on the Devices for your personal purposes only;
3. Licence restrictions
Except as expressly set out in this EULA or as permitted by any local law, you agree:
a. not to copy the App except where such copying is incidental to normal use of the App, or where it is necessary for the purpose of backup or operational security;
b. not to rent, lease, sub-license, loan, translate, merge, adapt, vary or modify the App;
c. not to make alterations to, or modifications of, the whole or any part of the App, or permit the App or any part of it to be combined with, or become incorporated in, any other programs;
d. not to disassemble, decompile, reverse-engineer or create derivative works based on the whole or any part of the App or attempt to do any such thing (by virtue of section 296A of the Copyright, Designs and Patents Act 1988);
e. to keep all copies of the App secure;
f. to comply with all technology control or export laws and regulations that apply to the technology used or supported by the App or any Service (Technology),
together Licence Restrictions.
4. Use of the App
4.1 You are responsible for maintaining the confidentiality and security of your App account and password details, and are fully responsible for any and all activities occurring in your account under your password, unless these activities are clearly due to our negligence or a specific and provable breach by us of these terms. We are unable to offer technical support and by agreeing to these terms you are confirming you have access to, and can use a mobile phone of suitable specification to receive and display the App. Once the App is downloaded you will be able to purchase mobile tickets using the App on your mobile phone. The App is available on iOS and Android mobile phones.
4.2 We are an agent of the bus operators (the operators), and do not run any of the services for which we sell tickets ourselves. We are only responsible for providing the service of booking mobile tickets, not for providing transport services which will be subject to the conditions of carriage of the individual operators (including any specific terms and conditions that they apply to the mobile ticket which we have sold to you on their behalf) which will apply to you in addition to this EULA.
4.2 It is important you check your mobile ticket details are correct before making a purchase via your mobile. Although you will be prompted to check details before making the purchase it is your responsibility to ensure the purchase is what you require. Once a purchase has been made it cannot be changed and any refund will be given at our discretion. Your tickets will need to be activated before you can use them and you will need an internet connection for both the purchase and the activation. Once the purchase is complete, you have 12 months to activate your ticket. Your mobile ticket must be presented on the screen of your mobile phone clearly to the driver long enough for the driver to observe the date and boarding code, and must be produced if requested by any officials of the operator at any time.
4.3 It is your responsibility to ensure you have a valid mobile ticket and that it is activated before making a journey with such ticket. Failure to produce a valid mobile ticket will mean that the operator is entitled to require you to pay the appropriate fare in cash or other accepted payment method on boarding. Neither we nor any operator shall be required to provide any refund where you fail to produce a valid mobile ticket.
4.4. Your mobile ticket is only valid for the period selected at the point of sale, and will be clearly displayed on your mobile. The period of validity will count down once activated. Operators shall be entitled to reject any mobile ticket which they reasonably believe is invalid, out of date, cancelled or on a stolen mobile phone.
4.5 Mobile tickets are not transferable to other passengers. Mobile tickets will transfer to a new device once you log in on the new device. Logging in on a new device will log you out on all other devices. Mobile tickets may only be used on one device at a time, but may be activated and then transferred.
4.6 You will require an internet connection to regularly update and verify your active mobile tickets.
4.7 It is possible operator staff may need to handle your mobile phone to check your ticket. We do not accept any liability for damage arising from operator’s staff handling of your mobile phone.
4.8 It is your responsibility to ensure your mobile device stays sufficiently charged. If it runs out of battery life and you cannot turn it on for long enough to show your mobile ticket, We cannot be held responsible, and will not offer any refund if you are unable to travel on the relevant operator’s services using your mobile ticket.
4.9 We cannot guarantee that all ticket types you wish to purchase are available via the App and you should check our website [https://trawscymru.info] to ensure that the travel you require for your journey is available. We use reasonable endeavours to ensure that the data on the website is accurate. Once notified of any errors or omissions we will use reasonable endeavours to correct them in a timely manner. This website may not be compatible with your mobile phone or computer configuration. We make no guarantees that your access to our website will be uninterrupted and we will not be responsible if we are unable to provide the website for any reason.
4.10 Refunds: Other than where your mobile phone has been stolen and you can provide both a Police Crime Number and proof of purchase to us, we will not give refunds for tickets purchased using the [App in any other circumstances. If you lose your mobile phone we are not responsible for any unused mobile tickets.
4.11 We reserve the right to cancel or suspend your account without notice or liability if we reasonably believe any mobile tickets have been obtained in a fraudulent manner. If you fail to comply with the conditions of carriage of any operator, we may also refuse to supply any further mobile tickets.
4.12 We cannot take responsibility for certain functions that require an active internet connection with sufficient signal strength and data handling capability. The connection can be WiFi or provided by your mobile network provider, but we cannot take responsibility for the App not working if you have not purchased and validated your ticket or your data allowance has expired.
4.13 If you are using the App outside of an area with WiFi you should remember that the terms of agreement with your mobile network provider will still apply. As a result, you may be charged by your mobile provider for the cost of data for the duration of the connection while accessing the App for validation or purchase, or other third party charges.
4.14 We do not store your credit/debit card or bank details on our servers or within the App, and we agree we will only use the information that we collect about you lawfully, in accordance with the Data Protection Act 2018, the General Data Protection Regulation and the Privacy and Electronic Communications (EC Directive) Regulations 2003 as amended by the Privacy and Electronic Communications (EC Directive) (Amendment) Regulations 2011. For your part, you confirm that you will only enter information about yourself and that such information is true. The details which you provide about yourself and any other information which identifies you will only be used for operational purposes, for example to contact you for feedback on this new technology, unless you have agreed to our Marketing opt in. Your personal details will not be passed to any other parties.
4.15 You also have certain legal rights under the Consumer Contracts (Information, Cancellation and Additional Charges) Regulations 2013 and the Consumer Rights Act 2015. If we do not comply with these laws you have certain remedies and these terms and conditions do not affect your rights, obligations and remedies under those laws which shall take precedence. For further information about your legal rights, contact Trading Standards Department or Citizens’ Advice Bureau.
5. Acceptable use restrictions
You must:
a. not use the App or any Service in any unlawful manner, for any unlawful purpose, or in any manner inconsistent with this EULA, or act fraudulently or maliciously, for example, by hacking into or inserting malicious code, including viruses, or harmful data, into the App, any Service or any operating system;
b. not infringe our intellectual property rights or those of any third party in relation to your use of the App or any Service, including the submission of any material (to the extent that such use is not licensed by this EULA);
c. not transmit any material that is defamatory, offensive or otherwise objectionable in relation to your use of the App or any Service;
d. not use the App or any Service in a way that could damage, disable, overburden, impair or compromise our systems or security or interfere with other users; and
e. not collect or harvest any information or data from any Service or our systems or attempt to decipher any transmissions to or from the servers running any Service.
together Acceptable Use Restrictions.
6. Intellectual property rights
6.1 You acknowledge that all intellectual property rights in the App and the Technology anywhere in the world belong to us or our licensors, that rights in the App are licensed (not sold) to you, and that you have no rights in, or to, the App or the Technology other than the right to use each of them in accordance with the terms of this EULA.
6.2 You acknowledge that you have no right to have access to the App in source-code form.
7. Limitation of liability
7.1 You acknowledge that the App has not been developed to meet your individual requirements, and that it is therefore your responsibility to ensure that the facilities and functions of the App meet your requirements.
7.2 We only supply the App for domestic and private use. You agree not to use the App for any commercial, business or resale purposes, and we have no liability to you for any loss of profit, loss of business, business interruption, or loss of business opportunity.
7.3 We act as an agent on behalf of the operators. We do not provide transport services, and are only responsible for the provision of a booking service for tickets through the App. For the avoidance of doubt, provision of transport services shall be subject to the conditions of carriage of the relevant operator and any liability relating to the provision, or failure of provision, of such services shall be governed by such conditions of carriage which shall form a contract between you and such operator.
7.4 We are only responsible for loss or damage you suffer that is a foreseeable result of our breach of this EULA or our negligence up to the limit specified in condition 7.4, but we are not responsible for any unforeseeable loss or damage. Loss or damage is foreseeable if it is an obvious consequence of our breach or if it were contemplated by you and us at the time we granted you the EULA.
7.5 Our maximum aggregate liability under or in connection with this EULA (including your use of any Services) whether in contract, tort (including negligence) or otherwise, shall in all circumstances be limited to the value of the tickets you have purchased that have not yet expired. This does not apply to the types of loss set out in condition 7.6.
7.6.Nothing in this EULA shall limit or exclude our liability for:
a. death or personal injury resulting from our negligence;
b. fraud or fraudulent misrepresentation; and
c. any other liability that cannot be excluded or limited by the laws of England and Wales.
8. Termination
8.1 We may terminate this EULA immediately by written notice to you:
a. if you commit a material or persistent breach of this EULA which you fail to remedy (if remediable) within 14 days after the service of written notice requiring you to do so;
b. if you breach any of the Licence Restrictions or the Acceptable Use Restrictions.
8.2 On termination for any reason:
a. we will give you the opportunity to use any remaining credit via a replacement form of ticket;
b. all rights granted to you under this EULA shall cease;
c. you must immediately cease all activities authorised by this EULA, including your use of any Services;
d. you must immediately delete or remove the App from all Devices, and immediately destroy all copies of the App then in your possession, custody or control and certify to us that you have done so.
9. Communication between us
9.1 If you wish to contact us in writing, or if any condition in this EULA requires you to give us notice in writing, you can send this to us by e-mail to us at [[email protected]]. We will confirm receipt of this by contacting you in writing by e-mail.
9.2 If we have to contact you or give you notice in writing, we will do so by e-mail or by pre-paid post to the address you provide to us in your request for the App.
10. Events outside our control
10.1 We will not be liable or responsible for any failure to perform, or delay in performance of, any of our obligations under this EULA that is caused by any act or event beyond our reasonable control, including failure of public or private telecommunications networks (Event Outside Our Control).
10.2 If an Event Outside Our Control takes place that affects the performance of our obligations under this EULA:
a. our obligations under this EULA will be suspended and the time for performance of our obligations will be extended for the duration of the Event Outside Our Control; and
b. we will use our reasonable endeavours to find a solution by which our obligations under this EULA may be performed despite the Event Outside Our Control.
11. Other important terms
11.1 We may transfer our rights and obligations under this EULA to another organisation, but this will not affect your rights or our obligations under this EULA.
11.2 You may only transfer your rights or obligations under this EULA to another person if we agree in writing.
11.3 If we fail to insist that you perform any of your obligations under this EULA, or if we do not enforce our rights against you, or if we delay in doing so, that will not mean that we have waived our rights against you and will not mean that you do not have to comply with those obligations. If we do waive a default by you, we will only do so in writing, and that will not mean that we will automatically waive any later default by you.
11.4 Each of the conditions of this EULA operates separately. If any court or competent authority decides that any of them are unlawful or unenforceable, the remaining conditions will remain in full force and effect.
11.5 Please note that this EULA, its subject matter and its formation, are governed by the laws of England and Wales. You and we both agree that the courts of England and Wales will have exclusive jurisdiction.