Llai o ffws wrth ddal y bws
1 mis yn ôl
TrawsCymru T6
Abertawe – Castell-nedd - Ystradgynlais – Dan yr Ogof – Pontsenni - Aberhonddu
Profwch fanteision y T6 i chi'ch hun gyda gostyngiad o 50% ar docyn ap diwrnod neu wythnos am gyfnod cyfyngedig gyda chod disgownt BETTEROFFBYBUS. Gweler mwy o fanylion isod.
Pam rydych chi'n well eich byd ar y bws
Prisiau da
Does dim angen poeni am gost petrol a pharcio pan fyddwch chi’n cymryd y bws. Mae teithio ar fws yn gyffredinol yn fwy fforddiadwy na gyrru, yn enwedig wrth ystyried costau tanwydd, ffioedd parcio, a chynnal a chadw cerbydau.*
Ôl troed carbon isel
Ar gyfartaledd mae bws lleol yn allyrru 35.1 gCO2 fesul km yn llai na char**, felly gallech leihau eich ôl troed carbon drwy newid rhai siwrneiau car i fws, hyd yn oed os mai dim ond un daith yr wythnos sy’n bosib.
Lleihau nifer o geir ar y ffordd
Pam sbwylio harddwch y Bannau Brycheiniog gyda llond lôn o geir? Neu beth am ddilyn llwybr carlam i mewn i Abertawe ac osgoi eistedd mewn tagfeydd trwy neidio ar y bws a phasio’r ciwiau yn y lôn fysiau?
Amser i ymlacio a dim straen gyrru
Gadewch i rywun arall yrru wrth i chi eistedd yn ôl, gwrando ar gerddoriaeth, darllen llyfr neu fwynhau'r golygfeydd o'r ffenestr.
Cael eich camau i mewn
Gall cerdded i'r arhosfan bws ac oddi yno fod yn ffordd effeithiol o fod yn actif a chyrraedd eich nod cam dyddiol.
Beth i'w wneud ar hyd y llwybr
Dyma rai o’n hawgrymiadau ar gyfer pethau i’w gwneud ar hyd llwybr T6
Ymwelwch ag Aberhonddu am:
- Gŵyl Jazz Aberhonddu 4-18 Awst
- taith gerdded ar hyd y gamlas
Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
- Amgueddfa y Cymry Brenhinol
Ymwelwch ag Abertawe am:
- siopa
- parc dwr LC
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- taith gerdded ar hyd y traeth i'r Mwmbwls
- Sw Frofannol Plantasia
Lleoliadau eraill ar hyd y llwybr:
- Ogofau Dan yr Ogof
- Parc Gwledig y Gnoll yng Nghastell-nedd
- Gwesty a Pharc Gwledig Craig y Nos
- cymerwch olygfeydd o Gronfa Ddŵr Crai
Cod disgownt
Beth am roi cynnig ar y T6 fel y gallwch chi brofi golygfeydd godidog y Bannau Brycheiniog neu fwynhau taith i Abertawe. Am gyfnod cyfyngedig, gallwch fwynhau 50% oddi ar docyn ap diwrnod neu wythnos ar gyfer y T6 trwy ddilyn y camau isod.
- Lawrlwythwch ap TrawsCymru a chrëwch gyfrif
- Cliciwch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf a dewiswch 'Tocynnau ffôn symudol'
- Dewiswch eich llwybr – T6
- Dewiswch y tocyn diwrnod neu wythnos*** a chliciwch ‘Prynu nawr'
- Gwiriwch fod y tocyn yn addas i'ch anghenion. Os ydyw, cliciwch ‘Talu'.
- Dewiswch ar gyfer pwy yw'r tocyn. Os yw'n addas i chi, dewiswch ‘I mi’. Fel arall, gallwch roi'r tocyn i rywun arall.
- Cyflwynwch fanylion eich cerdyn
- Cliciwch 'Ychwanegu cod disgownt' (gweler y ddelwedd isod)
- Rhowch y gair 'BETTEROFFBYBUS' yn y blwch testun a chliciwch ‘Defnyddio’
- Prynwch y tocyn
- Bydd tocynnau yn ymddangos yn yr adran tocynnau ffôn symudol. Rhaid actifadu’r tocyn cyn i chi deithio a sganio'r cod QR ar y peiriant tocynnau wrth i chi fynd ar y bws.
- Mwynhewch eich taith!
Amodau a thelerau’r cynnig
- Mae modd prynu un tocyn am bris gostyngol fesul cyfrif ap
- Gostyngiad ddim ar gael ar gyfer tocynnau dydd Powys
- Mae’r cod disgownt yn ddilys rhwng 29 Gorffennaf a 8 Medi
- Dim ond ar gael ar gyfer tocynnau ap
- Ar gael i oedolion, plant a deiliaid Fy Ngherdyn Teithio 16-21 oed
- Rhaid defnyddio tocyn o fewn blwyddyn i'w brynu
- Ni fydd unrhyw ad-daliad ôl-weithredol rhannol neu lawn ar gyfer tocynnau a brynwyd am y pris llawn heb god disgownt.
*Mae tocyn bws wythnosol yn costio llai na 3% o’r cyflog wythnosol o’i gymharu â 9% am gerbyd preifat – TAS National Survey 2022.
**Mae bws lleol yn allyrru 35.1 gCO2 fesul km yn llai na char - 2019 Government Report on greenhouse gases
*** tocyn wythnos ar gael rhwng Pontsenni ac Aberhonddu y unig.