6th - 7th July

Cynhelir Sioe Awyr Cymru unwaith eto ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Gorffennaf 2024.

Dros ddeuddydd, bydd rhai o’r peilotiaid a’r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i ddangos eu sgiliau trwy berfformio arddangosiadau aerobatig anhygoel. O jetiau i hofrenyddion, dyma ddau ddiwrnod na fyddwch am eu colli. Ac yn well byth – mae’r cyfan am ddim.

Nid yw’r holl gyffro’n digwydd yn yr awyr yn unig – bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau’n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy.

Cynllunio eich taith yma Mynd i'r wefan