Defnyddiwch docyn 1bws yng Ngogledd Cymru

Teithio yng Ngogledd Cymru? Gallwch ddefnyddio’r tocyn 1bws sy’n ddilys ar bron bob bws* yng Ngogledd Cymru.

Mae tocyn 1bws yn ddilys ar y gwasanaethau TrawsCymru canlynol: T2 Bangor i Aberystwyth, T3 Wrecsam i Bermo, y T8 Corwen i Chaer, y T10 Bangor i Gorwen, y T12 Wrecsam i'r Waun, a'r T22 Blaenau Ffestiniog to Caernarfon.  Yn ogystal, gellir defnyddio'r tocyn 1bws ar rwydwaith Sherpa Eryri Sherpa'r Wyddfa | Parc Cenedlaethol Eryri (llyw.cymru)  

Prynwch eich tocyn 1bws gan yrrwr y bws ar eich taith gyntaf o’r dydd.  Yna, bydd y tocyn yn ddilys ar gyfer teithio ar bob bws arall a ddefnyddiwch y diwrnod hwnnw ar draws Gogledd Cymru. (Noder: ni ellir prynu tocynnau 1bws ar ap symudol neu wefan)

Bydd tocyn oedolyn yn costio £7.00, bydd plentyn (neu berson ifanc sydd â Cherdyn Teithio) yn talu £4.70 a bydd deiliaid cerdyn teithio rhatach ar gyfer Lloegr a’r Alban hefyd yn talu £4.70. Mae tocyn teulu yn costio £15.00. Mae tocyn wythnos 1bws yn costio £30.00 i oedolion a £20.50 i blant a phobl sydd â thocynnau teithio rhatach.

Tocyn Oedolyn

£7.00

Plentyn/16-21/ Teithio Rhatach

£4.70

Tocyn Teulu

£15.00

Tocyn Oedolyn Wythnos

£30.00

Tocyn Wythnos: Plentyn/16-21/ Teithio Rhatach

£20.50

Mae tocyn 1bws yn hawdd iawn i’w ddefnyddio.  Un tocyn, am y dydd, yn ddilys ar bob bws yng Ngogledd Cymru—Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam—ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.

Mae bysiau yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r rhanbarth. Mae modd crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri, Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy… ar fws gysurus gan wybod bod rhywun arall yn gyrru a’ch bod yn gwneud eich rhan dros yr amgylchedd.

Mae gwybodaeth amserlen ar gyfer holl fysiau Gogledd Cymru ar gael ar-lein yn bustimes.org neu Traveline Cymru neu dros y ffôn ar 0800 464 00 00.

RHAID i ddeiliaid tocynnau sy'n bwriadu cysylltu â gwasanaeth fflecsi barhau i archebu eu taith(au) ymlaen llaw drwy'r ap fflecsi neu drwy gysylltu â'r tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0300 234 0300. Mwy o fanylion yn  fflecsi | TrC

 

*Mae 1bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru (siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a’r Fflint. Nid yw ychwaith yn ddilys ar wasanaethau twristiaeth a weithredir gan fysiau dwbl heb do, ar wasanaethau coetsys National Express a gwasanaethau parcio a theithio.