Dim ffws wrth fynd ar y bws
10 mis yn ôl
Efallai eich bod chi’n meddwl mai teithio mewn car ydy’r ffordd hawsaf o deithio o gwmpas, ond mae llawer o resymau pam mai teithio ar fws ydy’r dewis gorau!
Tap i deithio, nid am danwydd
Mae talu am deithio ar fysiau yn haws nag erioed. Gallwch dalu gyda cherdyn banc digyswllt ar bob gwasanaeth TrawsCymru. Mae tocynnau symudol hefyd ar gael ar ein ap, felly gallwch brynu tocyn o flaen llaw a'i actifadu pan fyddwch yn barod i deithio.
Mae pob milltir ar fws werth bob ceiniog
Rydych chi’n talu am y teithiau rydych chi’n eu gwneud yn unig, ac nid am yswiriant drud, profion MOT, gwasanaethau, parcio, tanwydd ac ati. Mae tocyn bws wythnosol yn costio llai na 3% o’r cyflog wythnosol o’i gymharu â 9% ar gyfer cerbyd preifat.*
Mae’n well i’r amgylchedd
Ar gyfartaledd, mae bws lleol yn allyrru 35.1 gCO2 y km yn llai na char** a gallai bws deulawr llawn arwain at 75 yn llai o geir ar y ffordd.
...wrth fynd ar y bws
Mae 60% o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu gwneud ar fws, felly ymunwch â’r miloedd o bobl sy’n dewis y bws fel eu hoff ddull o deithio.
Dysgwch fwy am eich gwasanaeth TrawsCymru lleol ar ein dudalen Llwybrau a mapiau neu chynlluniwch eich taith gan ddefnyddio ein hadnodd cynllunio teithiau.
Isod mae rhai o’r cynlluniau sydd ar waith i wneud teithio ar fysiau yn rhatach ac yn fwy hygyrch yng Nghymru.
fyngherdynteithio
Mae fyngherdynteithio yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu tocynnau bws am bris gostyngol i bobl ifanc. Mae’n darparu gostyngiad o tua 1/3 oddi ar bris tocyn bws i bobl yng Nghymru rhwng 16 a 21 oed.
Gall unrhyw un rhwng 16 a 21 oed sy’n byw yng Nghymru wneud cais am fyngherdynteithio. Mae angen i chi gael cyfeiriad parhaol yng Nghymru neu fod mewn addysg amser llawn yng Nghymru.
Gallwch chi ddefnyddio fyngherdynteithio ar unrhyw adeg o’r dydd ac ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos y mae’r gwasanaethau’n gweithredu, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan mytravelpass.
Cerdyn teithio rhatach
Os yw eich prif gartref yng Nghymru a’ch bod chi’n 60 oed o leiaf, neu os ydych chi’n berson anabl cymwys, gallwch chi deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru a’r gororau gyda cherdyn teithio rhatach.
Os ydych chi'n berson anabl a bod eich cyflwr yn cyfyngu ar eich gallu i deithio ar eich pen eich hun, mae hi’n bosibl y gallwch chi gael cerdyn cyd-deithiwr a fydd yn caniatáu i rywun arall deithio gyda chi am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys a sut i wneud cais ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
1bws
Teithio yng Ngogledd Cymru? Gallwch chi ddefnyddio’r tocyn 1bws sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar bron i bob bws yng Ngogledd Cymru.
Mae tocyn 1bws yn ddilys ar y gwasanaethau TrawsCymru canlynol: T2 Bangor i Aberystwyth, T3 Wrecsam i Bermo, y T8 Corwen i Chaer, y T10 Bangor i Gorwen, a'r T12 Wrecsam i'r Waun. Yn ogystal, gellir defnyddio'r tocyn 1bws ar rwydwaith Sherpa Eryri Sherpa'r Wyddfa | Parc Cenedlaethol Eryri (llyw.cymru)
Prynwch eich tocyn 1bws gan y gyrrwr bws ar eich taith gyntaf o’r diwrnod. Yna, bydd y tocyn yn ddilys i deithio ar bob bws arall rydych chi’n ei ddefnyddio ar draws Gogledd Cymru. (Nid oes modd prynu tocynnau 1bws drwy apiau na thrwy wefannau)
Mae tocyn oedolyn yn costio £6.50, tocyn plentyn (neu berson ifanc sydd â Cherdyn Teithio) yn costio £4.50 ac mae unigolion sydd â Cherdyn Teithio Rhatach ar gyfer Lloegr a’r Alban hefyd yn talu £4.50. Mae tocyn teulu yn costio £14.20. Mae tocyn wythnosol 1bws yn costio £28 i oedolion a £19 i blant a phobl sydd â thocynnau teithio rhatach.
Mae rhagor o wybodaeth am docynnau 1bws ar gael yma.
*Mae tocyn bws wythnosol yn costio llai na 3% o’r cyflog wythnosol o’i gymharu â 9% ar gyfer cerbyd preifat - Arolwg Prisiau Teithio Cenedlaethol TAS 2022.
**Ar gyfartaledd, mae bws lleol yn allyrru 35.1 gCO2 fesul km yn llai na char – Adroddiad Llywodraeth 2019 ar nwyon tŷ gwydr