Newyddion cyffrous i gwsmeriaid gwasanaethau T2 a T22 yng Ngwynedd!
1 mis yn ôl
O ddydd Llun 16 Rhagfyr, gallwch ddefnyddio tocynnau diwrnod ac wythnos yn gydgyfnewidiol ar rannau cyffredin y llwybrau hyn rhwng Oakeley Arms a Chaernarfon.
Mae'r T2 yn rhedeg rhwng Bangor ac Aberystwyth, ac mae'r T22 yn rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon.
Gyda chyflwyniad tocynnau cydgyfnewidiol, bydd cwsmeriaid yn gallu mwynhau mwy o hyblygrwydd ar eu teithiau gyda mwy o gyfleoedd teithio yn defnyddio'r un tocyn.
Yn ddiweddar, cafodd y gwasanaethau T2 a T28 eu hintegreiddio, gan sicrhau cysylltiadau di-dor gyda'r T1 yn Aberystwyth i'r ddau gyfeiriad. Mae'r integreiddio newydd hwn gyda'r T22 yn gam arall tuag sicrhau profiad teithio sydd mor gyfleus â phosibl i gwsmeriaid.
Gallwch ddod o hyd i'r amserlen lawn ddiweddaraf ar gyfer y ddau wasanaeth yma: T22 - Blaenau Ffestiniog to Caernarfon | Transport for Wales