4th - 18th August

Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu yn ŵyl gerddoriaeth a gynhelir pob blwyddyn yn Aberhonddu a thros y blynyddoedd, mae wedi croesawu amrywiaeth o gerddorion jazz enwog o bob cwr o'r byd.

Gŵyl gerddoriaeth yw hon a gynhelir bob blwyddyn yn nhref Aberhonddu yng Nghymru. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o berfformiadau cerddoriaeth jazz gan artistiaid sydd wedi hen ennill eu plwyf a rhai newydd. Mae'r ŵyl wedi bod yn diddanu am dros 40 mlynedd ac mae wedi ennill enw da fel un o brif wyliau jazz y DU. Yn ogystal â cherddoriaeth fyw, mae'r ŵyl hefyd yn cynnig gweithdai, dosbarthiadau meistr a gweithgareddau eraill i'r rheini sy'n ymhyfrydu yn y genre jazz.

 

Cod disgownt

Am gyfnod cyfyngedig, gallwch fwynhau 50% oddi ar docyn ap diwrnod neu wythnos ar gyfer y T6 trwy ddilyn y camau isod.

  1. Lawrlwythwch ap TrawsCymru a chrëwch gyfrif
  2. Cliciwch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf a dewiswch 'Tocynnau ffôn symudol'
  3. Dewiswch eich llwybr – T6
  4. Dewiswch y tocyn diwrnod neu wythnos*** a chliciwch ‘Prynu nawr'
  5. Gwiriwch fod y tocyn yn addas i'ch anghenion.  Os ydyw, cliciwch ‘Talu'.
  6. Dewiswch ar gyfer pwy yw'r tocyn.  Os yw'n addas i chi, dewiswch ‘I mi’.  Fel arall, gallwch roi'r tocyn i rywun arall.
  7. Cyflwynwch fanylion eich cerdyn
  8. Cliciwch 'Ychwanegu cod disgownt' (gweler y ddelwedd isod)
  9. Rhowch y gair 'BETTEROFFBYBUS' yn y blwch testun a chliciwch ‘Defnyddio’
  10. Prynwch y tocyn
  11. Bydd tocynnau yn ymddangos yn yr adran tocynnau ffôn symudol. Rhaid actifadu’r tocyn cyn i chi deithio a sganio'r cod QR ar y peiriant tocynnau wrth i chi fynd ar y bws.
  12. Mwynhewch eich taith!

screenshot from the TrawsCymru app showing discount code

Amodau a thelerau’r cynnig

  • Mae modd prynu un tocyn am bris gostyngol fesul cyfrif ap
  • Gostyngiad ddim ar gael ar gyfer tocynnau dydd Powys
  • Mae’r cod disgownt yn ddilys rhwng 29 Gorffennaf a 8 Medi
  • Dim ond ar gael ar gyfer tocynnau ap
  • Ar gael i oedolion, plant a deiliaid Fy Ngherdyn Teithio 16-21 oed
  • Rhaid defnyddio tocyn o fewn blwyddyn i'w brynu
  • Ni fydd unrhyw ad-daliad ôl-weithredol rhannol neu lawn ar gyfer tocynnau a brynwyd am y pris llawn heb god disgownt.

Cynllunio eich taith yma Mynd i'r wefan